ROBERTS, ROBERT ('Y Sgolor Mawr '; 1834 - 1885), clerigwr a llenor

Enw: Robert Roberts
Ffugenw: Y Sgolor Mawr
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1885
Rhiant: Mary Roberts
Rhiant: Owen Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 12 Tachwedd 1834, mab Owen Roberts a Mary ei wraig, o'r Hafod Bach, Llanddewi, sir Ddinbych. Aeth i'r Bala at Lewis Edwards yn 1847 am beth addysg, ac yna i sir Fôn yn athro preifat (1849-51) cyn mynd i'r coleg hyfforddi yng Nghaernarfon. Ar ôl dwy flynedd yno, bu'n dysgu yng Nghastell Caer Einion, Llanllechid (1853), Amlwch, a Rhuthyn (1855), ac yna aeth i Goleg S. Bees (Awst 1857) i baratoi ar gyfer urddau esgobol. Derbyniodd y rhain gan yr esgob Short o Lanelwy (gwnaed ef yn ddiacon yn 1859 ac yn offeiriad yn 1860), a bu'n gurad yn y Cwm, gerllaw Rhuddlan, yn y Bala, ac yng Nghapel Rug, ger Corwen. Yn 1861 bu raid iddo ymddeol, ac ymfudodd i Awstralia. Yno ysgrifennodd ei hunan-gofiant, ac yn hwn ceir darlun nodedig o fywyd cymdeithasol Cymru yng nghanol y 19eg ganrif. Dychwelodd i Gymru yn 1875 a bu'n athro preifat yn y Betws, ger Abergele, am dair blynedd. Gwnaeth hefyd lawer o waith geiriadurol, a manteisiodd D. Silvan Evans i raddau helaeth ar ddefnyddiau a llafur Robert Roberts. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn dysgu'n ysbeidiol. Bu farw yn Llanrwst a'i gladdu 15 Ebrill yn Llangernyw. Adwaenid ef fel 'Y Sgolor Mawr,' a dengys ei waith olion ac arwyddion ysgolheictod gwych a llafur manwl, sy'n eithriadol ag ystyried yr anawsterau a'i hwynebai.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.