Ganwyd yn Rhiwlas Isaf, Llanrhaeadr, ger Dinbych, mab John Roberts o Bentrefoelas, baledwr a fu ym mrwydr Waterloo, ac a oedd (meddir) yn gefnder i John Roberts yr almanaciwr. Ei fam oedd Sarah, ferch William Wood, a chwaer i Archelaus Wood.
Dechreuodd ei yrfa yn y Gatrawd 23 ('Royal Welch Fusiliers'), a bu ynddi am naw mlynedd a hanner. Wedi ymryddhau o'r fyddin, ymsefydlodd yn y Drefnewydd, ac yno y bu byw hyd ei farwolaeth. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan frawd ei fam.
Yn 1836 priododd Eleanor Wood Jones, merch Jeremiah Wood Jones.
Bu'n ddisgybl i Richard Roberts, Caernarfon, a daeth yn delynor enwog ac yn ganwr penillion rhagorol. Enillodd y delyn deir-res yn eisteddfod y Fenni, 1842, a'r brif wobr yn 1848. Enillodd y delyn yn eisteddfod Caerdydd, 1850. Cafodd yr anrhydedd o ganu'r delyn o flaen y frenhines yn Portsmouth, 1834, ac yn Winchester ddwywaith (1835), yn 1847 o flaen y dug Constantine o Rwsia (yn Aberystwyth), a brenin Belgium (yn Abertawe, 1848). Dysgodd naw o'i blant i ganu'r delyn, y ffidil, a'r ffliwt, a rhoesant gyngerdd o flaen y frenhines yn y Pale, Llandderfel, yn 1889. Rhoddodd heibio y ffugenw 'Alaw Elwy,' ac yn arwest farddol Glan Geirionydd urddwyd ef gan 'Gwilym Cowlyd' yn 'Telynor Cymru' yn 1886.
Siaradai Romani'n rhugl. Bu farw 11 Mai 1894.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.