JONES, THOMAS ('Glan Alun'; 1811 - 1866), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor

Enw: Thomas Jones
Ffugenw: Glan Alun
Dyddiad geni: 1811
Dyddiad marw: 1866
Plentyn: Annie Alun Jones (née Jones)
Plentyn: Sidney Margaret Roberts (née Jones)
Plentyn: John Thomas Alun Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 11 Mawrth 1811 yn 'siop Cefn-y-gader' yn yr Wyddgrug, yn fab i John Jones (o Gefn-y-gadair yn Llanelidan, a chyn hynny o'r Hendre, plwy Derwen), mab i JOSEPH JONES o'r Seined ger Rhuthun - 'Joseph y Seined'. Antinomiad, a ffurfiodd sect yn ystod y rhwyg (1750) rhwng Harris a Rowland; gweler arno J. H. Morris, Hanes Methodistiaeth Liverpool, i, 226, a The Moravian Brethren in North Wales (Y Cymmrodor 1938, 64-9).

Cafodd addysg dda, ac amlygodd duedd at lenyddiaeth yn fachgen bychan iawn. Bu'n brentis fferyllydd yng Nghaerlleon Fawr, ac yno bu'n ysgrifennu ar yr orgraff yn Goleuad Cymru; yna, wedi bwrw tymor yn Llundain, agorodd siop yn Wrecsam; yno, 1835-6, cyhoeddodd gylchgrawn byrhoedlog, Y Wenynen, o'i waith ei hunan gan mwyaf. Daeth yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw ei dad yn 1841; symudodd yntau i'r Wyddgrug; priododd yn 1843; ordeiniwyd ef yn 1850. Cwbl ddidrefn oedd gyda'i fasnach; drysodd ei amgylchiadau ac aeth yntau i yfed yn ormodol, felly diarddelwyd ef. Bu farw ei wraig yn 1856, gan adael chwech o blant bychain; ac aeth pethau o ddrwg i waeth; ond ar ôl troi ei law at amryw bethau (megis gwneuthur canhwyllau), cafodd le fel teithiwr masnachol, ac ailgychwynnodd bregethu ac areithio; yr oedd hefyd yn eisteddfodwr selog. Ailbriododd yn 1865. Bu farw 29 Mawrth 1866. Heblaw nifer helaeth o ysgrifau yn Y Traethodydd a chyfnodolion eraill, cyhoeddodd Fy Chwaer, 1844, Ehediadau Byrion, 1862, a dwy gyfrol o gyfieithiadau o chwedlau Esop. Yn y mesurau rhyddion y canai. Fel pregethwr, areithiwr ar wleidyddiaeth, a bardd, dyn rhugl iawn oedd; disgrifia Daniel Owen ef fel 'dyn hyll a phrysur,' yn 'braidd gyffwrdd' â phopeth, ond yn llednais a diniwed. Nid pawb a gafodd ysgrifau coffa gan dri gwr fel 'Ceiriog' (Y Traethodydd, 1868), 'Gwalchmai' (Y Dysgedydd, 1879), a Daniel Owen (Y Geninen, 1886).

Priododd ei ferch hynaf y Cenhadwr John Roberts (1842 - 1908, priododd merch arall iddo a J. Puleston Jones; a bu mab iddo JOHN THOMAS ALUN JONES (23 Awst 1851 - 1 Mai 1929), yntau'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn llyfrgellydd a chofrestrydd Coleg y Bala am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn llenor coeth, ond hynod wylaidd; ymddiddorai yn yr hen Biwritaniaid a'r cyfrinwyr, a sgrifennodd yn dda arnynt yng nghylchgrawn y coleg. Cyhoeddodd yn 1908 gyfrol fechan, Duwinyddiaeth Emynau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.