JONES, JOHN PULESTON (1862 - 1925), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor, a diwinydd

Enw: John Puleston Jones
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1925
Priod: Annie Alun Jones (née Jones)
Rhiant: Evan Jones
Rhiant: Mary Ann Jones (née Puleston)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor, a diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Richard Hughes

Ganwyd yn y Berth, Llanbedr Dyffryn Clwyd, 26 Chwefror 1862, mab Evan Jones, saer ac adeiladydd, a Mary Ann Puleston, (Mair Clwyd), un o ddisgynyddion Pilstyniaid Emral, Sir y Fflint, a chwaer Syr John Puleston. Symudodd y teulu i'r Bala, a phan oedd Puleston yn 18 mis oed cafodd ddamwain a'i gwnaeth yn berffaith ddall. Dysgodd ei fam iddo wneuthur popeth a allai drosto'i hun, heb gymorth neb. Dysgodd ddarllen y teip Moon i ddeillion, ac yn ddiweddarach y teip Braille, a'i ysgrifennu ag ysgrifiadur arbennig Braille. Ysgrifennai at eraill gydag ysgrifiadur cyffredin. Efe a luniodd y gyfundrefn o reolau i'r Braille Cymraeg a ddefnyddir heddiw. Gweithiai yn ei weithdy saer pan gartref. Marchogai ar ei geffyl nwyfus 'Dic,' pan yn Ninorwig, trwy heolydd Bangor a Chaernarfon, a gyrrai ef mewn cerbyd ar hyd ffyrdd peryglus yr ardal. Teithiai ei hunan ar y rheilffyrdd, a 'byddai angel,' meddai, 'ar bob platfform.'

Aeth i'r Ysgol Frutanaidd ac i ysgol ramadeg y Bala, ac yn 16 i'r coleg, gan sefyll ar ben y rhestr yn arholiad ei flwyddyn olaf yno yn 1881. Wedi blwyddyn yng Ngholeg y Deillion, Caerwrangon, aeth gydag O. M. Edwards i Brifysgol Glasgow, ac oddi yno i Goleg Balliol, Rhydychen, ac yn 1888 graddio yn y dosbarth cyntaf yn yr ysgol anrhydedd mewn hanes diweddar. Yr oedd yn un o'r saith a sefydlodd Gymdeithas Dafydd ab Gwilym yn 1886. Pleidiai ac ysgrifennai 'Gymraeg Cymreig.' 'Gellir ei gyfrif,' meddai Syr John Morris-Jones yn 1924, 'ymysg meistriaid iaith ei dadau heddiw, ac ymysg cymwynaswyr pennaf diwylliant a chrefydd Cymru trwy gyfrwng ei hiaith.'

Dechreuodd bregethu yn 17 oed (yn 1879) ac ordeiniwyd ef yn 1888 a'i alw'n fugail i eglwys Saesneg Princes Road, Bangor. Yn 1890 priododd Annie Alun Jones, merch Thomas Jones ('Glan Alun'). Ganwyd iddynt ddau o blant. Bu'n bugeilio eglwysi Dinorwig a'r Fachwen (1895-1907), Pen Mount, Pwllheli (1907-18), a Llanfair Caereinion (1918-23). Cyhoeddodd ei Esboniad ar Epistol Iago yn 1899, a'i 'Ddarlith Davies' ar Ysbrydoliaeth, Until the Day Dawn, yn 1913, a chyfrol o bregethau, Gair y Deyrnas, yn 1924. Y peth mwyaf gwreiddiol yn ei ddiwinyddiaeth oedd ei ddefnydd o'r syniad o 'ddatblygiad' yn ei ddysgeidiaeth am Dduw, gan briodoli iddo gynnydd mewn profiad. Gwelir hynny yn ei bregeth ar Hebreaid ii, 17, 18, yng nghynhadledd yr eglwysi Saesneg, Aberdâr, yn 1913, ac yn ei ysgrifau yn Yr Efrydydd a cholofnau 'Hawl ac Ateb' yn Y Goleuad. Tangnefeddwr oedd yn ystod y rhyfel mawr cyntaf a mynegodd ei safbwynt yn ei araith ar natur Eglwys (gweler Ysgrifau Puleston), yn ei ysgrifau yn Y Deyrnas, cylchgrawn yr Heddychwyr, ac yn y ddwy bregeth olaf yn Gair y Deyrnas.

Ar gyfrif 'arwriaeth ei fywyd, aml-ochredd ei athrylith, cyfoeth ei ddynoliaeth a'i gymeriad fel Cristion' yr oedd Puleston yn un o anwyliaid ei genedl. Cyflwynodd y cyfundeb dysteb iddo, a'r Brifysgol y radd o D.D. yn 1924. Bu farw 21 Ionawr 1925 a'i gladdu ym mynwent Eglwys Crist, y Bala.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.