Ganwyd 16 Chwefror 1842 yng Nghorris (Meirion), mab Richard a Jane Roberts. Oherwydd marwolaeth ei dad, aeth John, pan oedd yn 11 oed, i weithio yn y chwarel, ond yr oedd eisoes wedi penderfynu mynd yn genhadwr. Yn 21 oed, dechreuodd bregethu. Aeth i Goleg y Bala ac yna dilynodd gwrs meddygol byr yn Edinburgh; ar 6 Ionawr 1871 fe'i hordeiniwyd. Ar 31 Mai priododd Sidney Margaret, (1850-1931), merch i Thomas Jones ('Glan Alun'). Hwyliodd y ddau ar 27 Medi 1871 am yr India gan ymsefydlu yn Shella. Ymhen pum mlynedd symudasant i Cherrapoongee, lle y arosasant. Fel arloeswr âi John Roberts ar deithiau hir a pheryglus i bregethu'r efengyl; arferai weinyddu fel meddyg ar filoedd, cychwynnodd ysgolion a'u cadw, sefydlodd goleg diwinyddol yn Cherra a phenodwyd ef yn brifathro arno. Meistrolodd yr iaith Khassi yn fuan ac yn gywir, ac ef oedd â'r prif ran yn y gwaith o ddiwygio'r cyfieithiad o'r Testament Newydd a oedd mewn bod, ac o gyfieithu'r Hen Destament; a chyda chymorth ei wraig paratodd y Beibl Khassi newydd i'r wasg, 1897. Yn ystod ei seibiant dewiswyd ef yn llywydd y gymanfa gyffredinol (1897), ond brysiodd yn ôl i Khassia cyn llenwi'r gadair i gynorthwyo ei bobl a oedd yn dioddef o achos daeargryn ofnadwy; bu Roberts yn llywydd y gymanfa yn Llanelli (1907), fodd bynnag. Yn ystod tymor glawog 1908, eithriadol hyd yn oed yn Cherra, trawyd yr ardal â'r colera. Ymladdodd Roberts yn ei erbyn yn ddiymatal er ei fod ef ei hun yn cwyno yr un adeg. Hyn a diffyg triniaeth briodol llawfeddyg, a barodd ei farwolaeth gynamserol ar 23 Gorffennaf 1908. Bu farw Mrs. Roberts 9 Chwefror 1931 ym Mangor, Sir Gaernarfon. Ganed iddynt bum mab a phum merch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.