Disgrifir ei yrfa yn weddol lawn yn y D.N.B. - mab i Shute, is-iarll 1af Barrington, ydoedd. Brawd iau i Daines Barrington oedd Shute Barrington, a fu'n esgob Llandaf o 1769 hyd 1782. Er nad Cymro mohono, daeth i gysylltiad clos â Chymru ac i ddylanwadu ar ei bywyd mewn rhai cyfeiriadau, gan astudio a hyrwyddo astudiaeth ei hanes a'i hynafiaethau. O 1757 am dros ugain mlynedd bu'n farnwr cylchdaith Môn, Caernarfon, a Meirionnydd (y Sesiwn Fawr); yn ddiweddarach yr oedd yn farnwr yng nghylchdaith Caer - yn ystod y cyfnod hwnnw y bu'n cydeistedd â'r barnwr (yr arglwydd) Kenyon i glywed apêl am ohirio praw deon Llanelwy, sef William Davies Shipley. Deuai'r swyddi hyn ag ef yn fynych i Ogledd Cymru, a phan nad oedd ar gylchdaith gohebai â rhai o brif hynafiaethwyr a naturiaethwyr y wlad.
Yr oedd yn awyddus am gael gweld ffrwyth yn dyfod o astudiaethau Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') i lenyddiaeth gynnar Cymru; efe (a'r esgob Thomas Percy) fu'n foddion i ddyfod â gwaith Evan Evans i sylw Thomas Gray a Samuel Johnson (Cymm., 1951, 69). Ef hefyd oedd y cyntaf i gyhoeddi gwaith Syr John Wynn, The history of the Gwydir family ; fe'i cyhoeddodd y tro cyntaf yn 1770, gyda nodiadau, a'r eiltro (yn 1781) fel rhan o gyfrol yn dwyn y teitl Miscellanies by the Honourable Daines Barrington. Yr oedd yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, yn F.S.A., ac yn F.R.S. Ymhlith ei gyfraniadau i gyhoeddiad y Royal Society yr oedd Letter from the Hon. Daines Barrington, F.R.S., … giving an Account of some Experiments made in North Wales [yn ardal Arennig, sir Feirionnydd] to ascertain the different Quantities of Rain which fell at the same Time, at different Heights. Darllenwyd hwn (y mae copi yn NLW MS 12416D ) yng nghyfarfod y gymdeithas ar 6 Mehefin 1771. Cyhoeddwyd ei 'Notes on the Language of Birds' gan Thomas Pennant yn ei British Zoology.
Cadwyd rhai o lythyrau Barrington at gyfeillion yng Ngogledd Cymru yn NLW MS 2065E (llythyr, 19 Hydref 1775, at Paul Panton yr hynaf - ynglyn â Syr John Wynn o Wydir, Inigo Jones, a phont Llanrwst), yn NLW MS 3484C (llythyr 8 Mawrth 1770, at Paul Panton eto - yn hwn y mae'n galw Edward Lhuyd '…one of the greatest men that ever existed for philological learning … also … a very distinguished fossilist'), ac yn NLW MS 12416D (llythyrau at John Lloyd, F.R.S., Wigfair - yn un o'r llythyrau hyn dywed Barrington y gall drefnu i Lloyd gael copi gan Paul Panton o'r ohebiaeth a fu rhwng Syr John Wynn a Syr Hugh Myddelton; mewn llythyr arall y mae'n gofyn i Lloyd ddychwelyd iddo 'MS. Memoirs of Owen Glendower '). Cyfeirir ato yn llythyrau Morrisiaid Môn - gweler y mynegeion gan Hugh Owen; 'a great antiquary and lover of British antiquities' medd Lewis Morris amdano mewn un llythyr (ii, 344). Bu farw 14 Mawrth 1800.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.