PANTON, PAUL (1727-1797), bargyfreithiwr a hynafiaethydd

Enw: Paul Panton
Dyddiad geni: 1727
Dyddiad marw: 1797
Priod: Jane Panton (née Jones)
Plentyn: Elisabeth Maria Panton
Plentyn: Jane Panton
Plentyn: Bulkeley Panton
Plentyn: Thomas Panton
Plentyn: Jones Panton
Plentyn: Paul Panton
Rhiant: Margaret Patton (née Gruffudd)
Rhiant: Paul Patton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 4 Mai 1727, yn fab hynaf Paul Patton (bu farw 1752), Bagillt, plwyf Treffynnon, o'i wraig Margaret, merch ac aeres Edward Gruffudd o'r lle hwnnw. Yng Nghonsyllt y preswyliai'r adran hon o deulu Patton, neu Panton, ond olrheinient eu hynafiaid trwy deulu Plas Pantwn (a brynwyd gan Paul Panton, ieu., yn 1811) i Farchweithian. Disgynnai teulu Gruffudd, Bagillt, o Ednywain Bendew, ac yr oedd y fam yn or-wyres i John Jones, Gellilyfdy. Danfonwyd Paul Panton i Ysgol Westminster yn 1739/40, ac i Neuadd y Drindod, Caergrawnt, 25 Mehefin 1744. Ymaelododd yn y Brifysgol, 1746, ac yn Lincoln's Inn, 21 Rhagfyr 1744. Galwyd ef at y Bar, 14 Tachwedd 1749, a bu'n ymarfer â'i alwedigaeth am gyfnod. Ar Ddygwyl Dewi 1756 priododd â Jane (1725 - 1764), ferch ac aeres William Jones, Plas Gwyn, Pentraeth (1688 - 1755), cofiadur Biwmares. Yr oedd ei mam hithau'n aeres stadau Derwen, sir Ddinbych, a Llwyngwern, Llanuwchllyn. Yn ychwanegol at ei gyfrifoldeb ym mywyd cyhoeddus Môn fel ysgwïer Plas Gwyn, a gymerai o ddifrif er llawenydd i'r Morrisiaid, yr oedd gan Paul Panton ddiddordeb ymarferol mewn glofeydd, mwynfeydd, a diwydiannau yn ardal Holywell. Ys dywedai William Morris wrth ei gymeradwyo i sylw ei frawd Lewis yn 1761, yr oedd yn ' mine mad.' Efe oedd arglwydd maenor Consyllt, a threuliodd ran helaeth o'i amser yn Sir y Fflint. Bu'n siryf Fflint yn 1770 a Môn yn 1771. Teithiodd lawer yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban, ac fel ei gyfaill, Thomas Pennant, ymddiddorai mewn hynafiaethau. Cadwodd gysylltiad â'i gydefrydwyr ar hyd ei oes, gan ymweled â hwy a'u cyfarfod yn achlysurol yn Bath neu Lundain. Casglai lawysgrifau, a daeth cyfran helaeth o bapurau Wyniaid Gwydir, i'w feddiant (NLW MSS 9051-9069E ). Cymerai ddiddordeb yn llenyddiaeth gynnar Cymru, er nad oedd ei wybodaeth o Gymraeg yn drwyadl. Yn 1758 dangosodd Evan Evans ('Ieuan Fardd ' neu ' Ieuan Brydydd Hir') gopi o waith Taliesin iddo. Buont yn gyfeillion am weddill oes y Prydydd Hir (a fu farw 1787), ac yn y diwedd, wedi i bob cynllun arall fethu, rhoes Panton flwydd-dâl o £20 iddo, ar y ddealltwriaeth fod ei gasgliad i fyned i'r Plas Gwyn ar ôl ei ddydd. Ymhen ychydig fisoedd, 29 Rhagfyr 1787, yr oedd y llawysgrifau yn ei feddiant (gweler llawysgrifau NLW MS 1970-2068 ). Bardd arall a noddwyd ganddo ydoedd Dafydd Thomas ('Dafydd Ddu Eryri'). Bu farw ei wraig 21 Mehefin 1764, a chladdwyd hi ym Mhentraeth. Bu iddynt bedwar plentyn: Jane (ganwyd 7 Ebrill 1757), Paul (ganwyd 8 Mawrth 1758), Jones (ganwyd 14 Awst 1761), ac Elisabeth Maria (ganwyd 2 Rhagfyr 1763). Priododd eilwaith, 6 Mehefin 1770, â Martha Kirk, gwraig weddw o Gaer (a fu farw yn Nhreffynnon, 27 Gorffennaf 1814, yn 82 oed), a bu iddynt ddau fab, Thomas (ganwyd 1771) a Bulkeley (ganwyd 1772). Bu farw 24 Mai 1797, a'i gladdu yn eglwys Holywell, lle y mae cofeb iddo o waith John Flaxman. Buasai ei unig frawd, Thomas, masnachydd yn Leghorn, farw y flwyddyn cynt.

Dilynodd PAUL PANTON, ieu. (1758 - 1822), yrfa debyg iawn i yrfa ei dad, ond iddo wneuthur ei gartref yn fwy yn y Plas Gwyn, gan wella a helaethu'r adeiladau yno. O 1765 i 1769 bu yn ysgol Edward Owen, Warrington, ac o hynny hyd Fedi 1775 yn Ysgol y Brenin yng Nghaer (o dan Robert Vanbrugh). Derbyniwyd ef yn Lincoln's Inn, 22 Mawrth 1775, ond ni phreswyliodd yno tan fis Tachwedd 1777, gan iddo dreulio'r cyfamser ym Mhrifysgol Edinburgh. Yn Ionawr 1779 cyhoeddwyd llythyrau ganddo o dan y ffugenw ' Monensis ' ym mhapurau Caer, i arwain gwrthwynebiad i apwyntiad John Probert yn gasglydd rhenti'r brenin yng Ngogledd Cymru. Galwyd yntau at y Bar ym Mehefin 1781, a chadwodd ystafell yn Lincoln's Inn hyd 1794. Gweithredodd yn gyson am flynyddoedd ar gylchdaith y Sesiwn Fawr ym Môn, Arfon, a Meirion. Yn 1781 cyhoeddodd yn ddienw, yn Llundain, Free Thoughts on the Continuance of the American War … by a Gentleman of Lincoln's Inn. Apwyntiwyd ef yn 1793 yn ddosbarthwr stampiau yng Ngogledd Cymru (yn 1821 y rhoddwyd sir Ddinbych dan ei ofal). Bu'n arweinydd ym mywyd cyhoeddus Môn, fel dirprwy-raglaw a chyrnol gyda'r gwirfoddolwyr o 1803, ac uchelsiryf yn 1807. Bu'n uchelsiryf Sir y Fflint yn 1815. Ef oedd cadeirydd y cyfarfod o fonedd Môn a anfonodd ddeiseb yn erbyn hawliau'r Pabyddion ac a achosodd ddadl yn Nhy'r Cyffredin, 1813. Cymerai ddiddordeb, fel ei dad, yn hynafiaethau ac astudiaethau Cymreig, er nad oedd yn deall rhyw lawer o Gymraeg. Rhoes fenthyg llawysgrifau'r ' Prydydd Hir ' i Owen Jones ('Owain Myfyr') a William Owen Pughe at gyhoeddi'r The Myvyrian Archaiology of Wales , ac iddo ef y cyflwynwyd y gyfrol gyntaf yn 1801. Y bardd a gafodd fwyaf o'i nawdd ef oedd D. Thomas ('Dafydd Ddu Eryri') a chyflwynodd hwnnw ei lyfr Corph y Gaingc (Dolgellau, 1810) iddo. Teithiodd yntau lawer, ac ymddiddorai mewn cerddoriaeth ac argraffu. Gallai ganu'r crwth, a phrynodd argraffwasg fechan yn 1794. Bu farw yn ddibriod 24 Awst 1822, a disgynnodd ei feddiannau i'w chwiorydd a'i frawd JONES PANTON (1761 - 1837), siryf Môn, 1823, 1828; Fflint, 1827; a Meirion, 1830.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.