OWEN, EDWARD (1728/9 - 1807), clerigwr ac ysgolfeistr

Enw: Edward Owen
Dyddiad geni: 1728/9
Dyddiad marw: 1807
Rhiant: Frances Owen (née Rogers)
Rhiant: David Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John James Jones

Mab David Owen, Llangurig, Sir Drefaldwyn (gweler dan deulu Owen o Gefn-hafodau). Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 22 Mawrth 1745/6, yn 17 mlwydd oed. Graddiodd B.A. 1749 ac M.A. 1752. Yn 1752 penodwyd ef yn athro ysgol ramadeg Warrington. Yn 1763 gwnaed ef yn beriglor Capel Sankey, Warrington, ac yn 1767 yn rheithor Warrington. Yr oedd yn ysgolhaig da, ac enwogodd ei hunan fel clerigwr ac fel ysgolfeistr. Daeth llawer o'i ddisgyblion yn ddynion blaenllaw. Nodweddid ef â haelioni hynod, a bu'n gefn i Goronwy Owen pryd yr oedd hwnnw'n gurad yn Walton. Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd cymdeithasol a llenyddol Warrington, a bu'n llywydd llyfrgell Warrington. Ei brif waith cyhoeddedig ydyw Satires of Juvenal and Persius, translated into English Verse, 1785 (gydag argraffiadau diweddarach yn 1786 ac 1810). Cyhoeddodd hefyd ramadegau Lladin ar gyfer ysgolion. Dywed Gilbert Wakefield amdano ei fod yn ŵr o ddysg dillyn, geirwiredd ddiargyhoedd, a haelioni hynod. Ond y mae Thomas Seddons yn ei Characteristic Strictures, 1779, yn ei wawdio. Y mae darlun o Owen i'w weld yn Amgueddfa Warrington. Bu farw Ebrill 1807.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.