OWEN (TEULU), o Gefn-hafodau a Glangynwydd yn Llangurig, ac wedyn o Glansevern yn Aberriw.

Teulu o'r Deheudir oedd hwn yn wreiddiol (gweler yr ach yn Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, iii, 232); daeth i amlygrwydd tua chanol y 18fed ganrif, pan gynhyrchodd ddwy genhedlaeth olynol o wŷr nodedig.

Yr oedd gan DAVID OWEN (1700 - 1777) a'i wraig Frances Rogers (o Gefn-y-berain yng Ngheri) bedwar mab; daw tri ohonynt dan ein sylw:

1. OWEN OWEN (1723 - 1789), siryf Maldwyn CyfraithGwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil yn 1766;

ei wraig oedd Anne, merch ac etifedd Charles Davies o'r Llifior yn Aberriw. Cawsant dri mab:

(a) Syr ARTHUR DAVIES OWEN (1752? - 1816), siryf Maldwyn CyfraithGwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil yn 1814,

cyfreithiwr, a fu'n flaenllaw ym mywyd cyhoeddus y sir (yn ddirprwy-raglaw ac yn gadeirydd ustusiaid y sir); o 1803 hyd ei farw, yn ddiblant, 18 Hydref 1816, ef oedd ail brif swyddog y ' Montgomeryshire Yeomanry Cavalry.' Yn Glansevern yr oedd ei gartref, oblegid gwerthwyd Cefn-hafodau.

(b) DAVID OWEN.

Bedyddiwyd yn eglwys Aberriw ar y 16 Medi 1754. Disgrifiwyd y tad yn ' gent. of Keel ' (Cil) ac yr oedd gan y teulu lawer o eiddo yn yr ardal. Bu yn ysgol ei ewythr yn Warrington cyn mynd i Goleg y Drindod yng Nghaergrawnt, yr oedd yn ' Senior Wrangler ' yn 1777, ac enillodd brif wobr Smith yn yr un flwyddyn. Graddiodd yn M.A. yn 1780, a bu'n gymrawd o'r coleg. Urddwyd ef, ond wedyn ymfudodd i New Brunswick, lle y bu farw'n ddibriod ar y 10 Rhagfyr 1829.

(c) WILLIAM OWEN (1758 - 1837),

Bed. WILLIAM OWEN yn eglwys Aberriw ar yr 22 Awst 1758. Bu yn ysgol Warrington dan ei ewythr Edward (2 isod), yng Ngholeg Iesu, Rhydychen am gyfnod byr, ac yng Ngholeg y Drindod ('fifth Wrangler,' 1782, a chymrawd); bargyfreithiwr oedd ef (K.C. 1818); etifeddodd Glansevern ar ôl ei frawd Syr Arthur, ac yna ymdaflodd i fywyd y sir. Ef oedd cadeirydd yr ustusiaid. Mewn gwleidyddiaeth, yr oedd yn Chwig pendant; anogai'n gryf ddiddymu'r ' Sesiwn Fawr,' ac arweiniodd gefnogaeth Maldwyn i'r Mesur Diwygiad (1832). Bu farw 10 Tachwedd 1837; ar ôl marw ei weddw Anne Warburton Owen (Montgomeryshire worthies , 214) yn 1876, aeth Glansevern i'w berthynas A. C. Humphreys, a gymerth yr enw ' Humphreys-Owen '. Y mae beddrodau'r tri brawd hyn yn eglwys Aberriw.

2. EDWARD OWEN (1729? - 1807), ysgolfeistr; gweler yr ysgrif arno.

3. WILLIAM OWEN (bu farw 1778 ym Madras), a aeth i'r llynges yn fachgen yn 1750;

bu'n bresennol ym mrwydr Plassey (1757) a phan gymerwyd Pondicherry (1760), yn ' midshipman '; dyrchafwyd ef yn gapten tua 1770. Cafodd ddau fab, a esgynnodd i radd uchel yn y llynges :

(a) y llyngesydd Syr EDWARD CAMPBELL RICH OWEN (1771 - 1849),

a oedd yn bennaeth llong yn y cyrch ar Walcheren (1809), a urddwyd yn farchog yn 1815, ac a oedd yn ddirprwy-lyngesydd ym Môr India (1828-32) ac yn y Môr Canoldir (1841-5); dyrchafwyd ef yn llyngesydd yn 1846, a bu farw 8 Hydref 1849.

(b) Y dirprwy-lyngesydd WILLIAM FITZWILLIAM OWEN (1773 - 1857),

a oedd ym mrwydr 'y cyntaf o Fehefin' (1794), ac yn Spithead pan wrthryfelodd y morwyr yn 1797; yn union wedyn, dyrchafwyd ef yn swyddog, ac yn rhyfel 1803-15 bu mewn llawer brwydr (ac yn garcharor rhyfel o 1808 hyd 1810); ond yn y blynyddoedd hynny, ac ar hyd ei yrfa wedyn, fel mesurwr a mapiwr yr enillodd y clod mwyaf; ystyrid ei siartiau'n rhagorol, a bu'n archwilio'r moroedd ledled y byd. Codwyd ef yn is-lyngesydd yn 1847, ac ymddeolodd, gyda'r radd o ddirprwy-lyngesydd, yn 1855. Bu farw 3 Tachwedd 1857, yn New Brunswick, a oedd ers tro byd wedi bod yn gartref iddo pan ar dir, oblegid i'w ddwylo ef y daeth tiroedd ei gefnder David (1 (b) uchod).

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.