Ganwyd yn Garthmyl (Maldwyn), 9 Tachwedd 1836, yn fab i Erskine Humphreys, bargyfreithiwr; o du ei fam, yr oedd yn nai i A. J. Johnes. Yn 1876, etifeddodd diroedd Oweniaid Glansevern (Cefnhafodau gynt - gweler dan Owen o Gefnhafodau), a chymerodd yr enw 'Humphreys-Owen.' Aeth i ysgol Harrow ac i Goleg y Drindod yng Nghaergrawnt (lle y graddiodd yn 1860); derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr yn 1863. Ymdaflodd i fywyd cyhoeddus Maldwyn (a Chymru), yn enwedig i fuddiannau addysg ganolraddol ac uwchraddol. Bu'n aelod seneddol dros y sir o 1894 hyd 1905, yn gadeirydd y Bwrdd Canol o 1896 hyd 1905, yn flaenllaw gyda Choleg y Brifysgol yn Aberystwyth, ac yn hyrwyddwr selog i Brifysgol Cymru. Yn wleidyddol, yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn. Bu farw 9 Rhagfyr 1905.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.