MORRIS, WILLIAM (1705 - 1763), llythyrwr a llysieuegwr

Enw: William Morris
Dyddiad geni: 1705
Dyddiad marw: 1763
Priod: Jane Morris (née Hughes)
Plentyn: Jane Jones
Plentyn: Robert Morris
Rhiant: Margaret Morris (née Owen)
Rhiant: Morris Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llythyrwr a llysieuegwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

3ydd mab Morris ap Rhisiart Morris, a brawd i Lewis, Richard, a John Morris; ganwyd 6 Mai 1705 yn y Fferem, Llanfihangel Tre'r Beirdd. Awgryma ef ei hunan mai gŵr tal main ydoedd; efallai ei fod hefyd yn gwargrymu, oblegid y mae ei nai John Owen yn ei lysenwi'n 'Gwilym Gam' - ond efallai hefyd mai ei 'grintachrwydd' a oedd wedi digio ei nai hoyw; nid oedd haelfrydedd ei frawd Richard gan William, nac ychwaith athrylith bigog ei frawd Lewis; odid nad 'dyn mwyn-galed' oedd ef, â mwy o synnwyr cyffredin na'i frodyr. Gwyddys iddo'n ifanc fwrw cryn amser yn Lerpwl (yr oedd yno yn 1726, beth bynnag), ond yn Chwefror 1737 penodwyd ef yn gasglydd y doll ym mhorthladd Caergybi (yn ddiweddarach cafodd fân swyddi cyllidol eraill gyda hon), ac yn 1758 daeth yn rheolwr (Comptroller of Customs') yno - yr oedd yn y cyfamser (1742) wedi gwrthod bod yn brif glerc yn y dollfa yng Nghaerlleon-fawr. Felly yng Nghaergybi y bu o 1737 hyd ei farw; yr oedd yn 'feddyg gwlad' answyddogol ac yn cael galw arno'n aml hefyd am help mewn materion o gyfraith neu o fusnes. Ei gyfaill pennaf yng Nghaergybi oedd Thomas Ellis, curad y plwyf, nes symudwyd hwnnw i Nutfield yn 1759; ac yr oedd William Morris yn gôrfeistr yn y llan, a chanddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth gysegredig. Yn wir, ef oedd yr unig un o'r brodyr y breuddwydiodd neb am briodoli emyn (sef ' Golchwyd Magdalen yn ddisglair') iddo, er y carem sicrach prawf o'r awduraeth. Cyfranogai hefyd, yn llawn, o atgasedd Thomas Ellis at y Methodistiaid. Efallai mai pwnc arbennig William Morris oedd llysieueg (er ei fod hefyd yn naturiaethwr cyffredinol da); yr oedd ganddo wybodaeth anarferol o lysiau, ac ar ei waith ef yn bennaf y seiliwyd Welsh Botanology Hugh Davies o Aber. Yr oedd' hefyd, fel ei frodyr, yn gasglwr a chopïwr llawysgrifau, ac yn neilltuol falch o'r 'Delyn Ledr' y bu bron iddi fynd ar ddifancoll o ddwylo diofal Goronwy Owen. Perchid ei wybodaeth a'i farn ar faterion Cymraeg gan ei frodyr, a chymerai yntau ddiddordeb mawr yng Nghymdeithas y Cymmrodorion - ef, i bob pwrpas, a ddewisodd 'aelodau gohebol' cyntaf y gymdeithas. Hysbys yw ei ran yn 'narganfyddiad' Goronwy Owen a 'Robin Ddu yr Ail o Fôn' (Robert Hughes). Ond fel llythyrwr y mae William Morris yn wir bwysig - ei lythyrau ef yw dwy ran o dair o gasgliad J. H. Davies. Darlunir holl fywyd Môn yn y llythyrau hyn, a hwy yw'r ffynhonnell bwysicaf ar hanes cymdeithasol yr ynys yn y 18fed ganrif.

Priododd (yn 1745) â Jane, ferch ac aeres Robert Hughes o Lanfugail (J. E. Griffith, Pedigrees, 41); bu hi farw 1 Mai 1750. Bu mab a merch o'r briodas hon fyw. Priododd y mab (hynaf), ROBERT MORRIS (a aned 9 Mawrth 1746), â Jane Parry (gweddw, o deulu Bulkeley o'r Brynddu - gweler J. E. Griffith, op. cit., 33); gwerthodd ei gyfran o stad Llanfugail ac aeth i fyw yng Nghaergybi. Bu'r ferch, JANE (JONES) (1749 - 1833), a aned 12 Chwefror 1749, yn briod ddwywaith, y tro cyntaf â John Jones, ecseismon yng Nghaernarfon, a'r ail dro â Thomas Jones, swyddog yn nhollfa Biwmares (J. E. Griffith, op. cit., 41), ond bu farw'n weddw, 21 Chwefror 1833 (Camb. Quart. Mag., v, 311) - ganddi hi y cafwyd y llythyrau a sgrifennodd Goronwy Owen at ei thad (gweler y rhagymadrodd i argraffiad J. H. Davies o'r Letters of Goronwy Owen). Sonia llythyrau William Morris lawer am ei blant. Bu ef farw 29 Rhagfyr 1763 - yr oedd i bob pwrpas ar ei wely angau pan fu farw ei dad, ac yn analluog i fynd i'r angladd; ei lythyr yn hysbysu hynny i Lewis Morris oedd ei lythyr olaf un sydd gennym, 12 Tachwedd 1763.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.