Ganwyd yn y Ceint Bach, Penmynydd, Môn. Addysgwyd ef gan Ellis Thomas, curad Llanfair Mathafarn Eithaf, a hyfforddwyd ef fel clerc cyfreithiwr yn swyddfa Emrys Lewis y Trysglwyn, yn Biwmares. Bu'n cadw ysgol ym Mhenmynydd, Hen-eglwys, Cerrig-ceinwen, Bodedern, ac Amlwch, a bu'n glerc i Ratcliffe Sidebottom, bargyfreithiwr, Essex Court, Temple, Llundain, o 1763 hyd 1783. Ei batrwm fel bardd oedd Goronwy Owen. Cyhoeddwyd ei gywydd ' Molawd Môn' yn Diddanwch teuluaidd , 1763, a'i gywydd 'Y Byd' yn Y Cylchgrawn Cymraeg, 1793. Ei waith gorau yw ei gywydd 'Myfyrdod y Bardd am ei Gariad,' a gyhoeddwyd yn y North Wales Gazette, 15 Medi 1808. Yn Llundain bu'n aelod amlwg o'r cymdeithasau Cymraeg, yn gyd-lyfrgellydd â Richard Fenton i Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1777, yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Gwyneddigion ac yn ysgrifennydd a thrysorydd iddi am dair blynedd, 1771-3, ac yn llywydd iddi yn 1778. Cynorthwyodd ' Owain Myfyr ' i gasglu gweithiau y beirdd i'w cyhoeddi. Collodd ei iechyd yn Llundain a daeth i Gaernarfon i gadw ysgol yn 1783. Bu farw 27 Chwefror 1785, claddwyd ef ym mynwent Hen-eglwys ger Llangefni, a chymerodd Cymdeithas y Gwyneddigion y draul o osod carreg goffa ar ei fedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.