OWEN, JOHN (bu farw 1759); bardd, telynor, llythyrwr

Enw: John Owen
Dyddiad marw: 1759
Rhiant: Ellen Davies (née Morris)
Rhiant: Owen Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, telynor, llythyrwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Alfred Owen Hughes Jarman

nai i Forrisiaid Môn (mab i'w chwaer Ellen a'i phriod Owen Davies); ganwyd, yn ôl pob tebyg, yng Nghaergybi yn ystod tridegau cynnar y 18fed ganrif (y mae'r cofnodion plwyfol cyn 1737 ar goll). Pan oedd yn fachgen ifanc aeth i fyw at Lewis Morris yng Ngheredigion a bu'n cynorthwyo ei ewythr yno, ac wedi hynny yn Llundain, gyda'r ymgymeriadau diwydiannol a'i helbulon cyfreithiol. Eithr oerodd y berthynas rhwng y ddau a thra bu yn Llundain cyfeillachodd John Owen â Richard Morris gan ei gynorthwyo i baratoi gwaith Goronwy Owen ar gyfer y wasg. Ceir tua 30 o lythyrau o'i waith yn ogystal â pheth barddoniaeth ar fesur y cywydd. Yn 1758 cafodd swydd fel clerc ar long ryfel a bu farw o glefyd yn Gibraltar yng Ngorffennaf 1759.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.