OWEN, HUGH (1880 - 1953), hanesydd

Enw: Hugh Owen
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1953
Priod: Marian Owen (née Owen)
Rhiant: Jane Owen
Rhiant: Hugh Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Glyn Parry

Ganwyd 8 Mai 1880 yn Niwbwrch, Môn, yn fab i Hugh a Jane Owen. Symudodd y teulu i Aigburth, Lerpwl, yn 1883. Addysgwyd ef yn ysgolion S. Michael's Hamlet ac Oulton, a Phrifysgol Lerpwl. Wedi derbyn tystysgrif dysgu yn 1901 bu'n athro hanes mewn ysgolion yn Llundain, Lerpwl a Threffynnon cyn ei benodi'n bennaeth yr adran hanes yn ysgol Llangefni yn 1918, swydd y parhaodd ynddi nes iddo ymddeol yn 1944.

Flwyddyn wedi iddo ddychwelyd i Fôn fe'i hetholwyd yn olygydd cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr y sir ac ef a fu'n gyfrifol am y cylchgrawn am yr ugain mlynedd nesaf. Rhwng 1920 ac 1949 cyhoeddodd yn y cylchgrawn nifer o ffynonellau hanesyddol Môn wedi eu golygu ganddo ef, megis cofnodion llys sesiwn chwarter Môn, 1768-88 (1924); cyfrifon beilïaid Biwmares, 1779-1805 (1929); llyfr cofnodion bwrdeistref Biwmares, 1694-1723 (1932) a dyddiadur Bulkeley Dronwy (1937). Golygodd hefyd Braslun o hanes Methodistiaid Calfinaidd Môn, 1880-1935 (1937); ac, ar y cyd â Gwilym Peredur Jones, Caernarvon court rolls, 1361-1402 (1951), a chyhoeddodd y llyfrau canlynol: The life and works of Lewis Morris (Llywelyn Ddu o Fôn) 1701-1765 (1951), The history of Anglesey constabulary (1952) a Hanes plwyf Niwbwrch (1952). Traethawd buddugol mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau, 1949, ar hanes unrhyw blwyf yng Nghymru oedd yr olaf. Nid y leiaf o'i gymwynasau, fodd bynnag, oedd ei waith ar lythyrau'r Morysiaid, sef mynegai cynhwysfawr i J.H. Davies (gol.), The Morris letters (1907, 1909) a ymddangosodd yn y cylchgrawn rhwng 1942 ac 1944, ac Additional letters of the Morrises of Anglesey yn ddwy ran, Y Cymmrodor, 49 (1947, 1949).

Dyfarnodd Prifysgol Lerpwl radd M.A. iddo yn 1914 am ei draethawd ymchwil, ' Pre-Edwardian castles in north Wales '. Yn 1916 etholwyd ef yn gymrawd o'r Royal Historical Society ac yn gymrawd o Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain (F.S.A.) yn 1924.

Priododd yn 1913 â Marian Owen o Fethesda, Sir Gaernarfon, athrawes yn ysgol sir Bangor. Bu farw 18 Mawrth 1953 yn Rhosyr, Llanfair Pwllgwyngyll.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.