CATRIN ferch GRUFFYDD ab IEUAN ap [LLYWELYN?] FYCHAN (fl. 16eg ganrif), bardd

Enw: Catrin ferch Gruffydd ab Ieuan ap [llywelyn?] Fychan
Rhiant: Sioned ferch Rhisiart ab Hywel
Rhiant: Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Merch, y mae'n debyg, i'r bardd Gruffydd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Un gerdd ganddi a gadwyd, sef awdl i Dduw ac i'r byd - yn NLW MS 722B (155). Ymddengys mai chwaer iddi, Ales ferch Gruffydd ab Ieuan, biau'r cywydd a geir yn Cardiff MS. 19 (742), Cwrtmawr MS 14C (72), ac NLW MS 6681B (404).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.