RHYS PENNARDD (fl. c. 1480), bardd

Enw: Rhys Pennardd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

y dywedir amdano ei fod yn ŵr naill ai o Gonwy neu o Glynnog yn Sir Gaernarfon; dywedir ei gladdu yn Llandrillo, Sir Feirionnydd. Ceir nifer o'i gerddi mewn llawysgrifau, ac yn eu plith gywyddau i Elisau ap Gruffudd ab Einion o'r Plas yn Iâl, Gruffudd Fychan ap Hywel ap Madog a Rhys ap Hywel ap Madog o Dalhenbont, Hywel Ddu o Fôn a'i wraig Mallt, a hefyd i Wiliam, cwnstabl Aberystwyth. Canodd Llywelyn ap Gutun ddychan i Rys ac i ddau fardd arall, Hywel ap Rheinallt a Lewys Môn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.