Ŵyr oedd i Robert Owen o Ddolserau, Dolgellau, cyfreithiwr yn Llys y Goror yn Llwydlo a mab i'r ' barwn ' Lewis Owen. Yn y Rhyfel Cartrefol, safodd gyda'r Senedd, ac fel ustus heddwch triniodd y Breniniaethwyr yn bur llym; awgryma llythyr (Gweithiau Morgan Llwyd, ii, 291-2) gan John Jones o Faes-y-garnedd at Forgan Llwyd yn 1651 fod Owen yn fyr o ' discretion and Christian prudence,' a bod perygl i'w lymdra yrru pobl i ragrithio eu bod ym mhlaid y senedd - y mae, gyda llaw, lythyr gan Llwyd ei hunan at Robert Owen yn yr un flwyddyn (op. cit., ii, 255-6). Bu'n llywodraethu Biwmares dros y Weriniaeth. Ond erbyn marw Cromwell, onid cynt, yr oedd wedi ymuno â phlaid y 'Bumed Frenhiniaeth'; ac ym mis Gorffennaf 1659 yr oedd yn aelod o bwyllgor yn ei sir i gasglu arian at fyddin y cadfridog Harrison. Yng ngwanwyn 1660, dygwyd ef a'i bleidwyr o flaen y llys yn y Bala, a charcharwyd hwy yno am 15 wythnos (rhagymadrodd J. H. Davies i Weithiau Morgan Llwyd, lxxviii - lxxix). Tua'r adeg honno ymunodd â'r Crynwyr, a charcharwyd ef eto am ysbaid byr yn 1661. Ond ar ôl i ' Oddefiad ' Siarl II fynd yn ddirym, bwriwyd ef (1674) i garchar y sir yn Nolgellau, a bu yno am bum mlynedd a hanner. Ymfudodd yn 1684 (nid 1690 fel y dywed rhai) i Bennsylvania, gyda'i wraig Jane (yr oedd hi'n berthynas iddo, ac yn ferch i'r hynafiaethydd Robert Vaughan o'r Hengwrt, gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 201), a phawb o'u plant ond yr hynaf, Robert. Tiriasant yn Philadelphia 17 Medi 1684. Bu ef a'i wraig farw ymhen ychydig fisoedd wedyn - nid yn 1697 fel y dywedir weithiau. Gwelir enwau eu plant a'u disgynyddion yn nhabl J. E. Griffith (uchod). Mab iddo oedd Griffith Owen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Crynwr, ŵyr Robert Owen, Dolserau, Dolgellau, a oedd yn dwrnai yn Llys y Gororau yn Llwydlo, ac yn fab i'r 'barwn' Lewis Owen (bu farw 1555). Yn ystod y Rhyfel Cartrefol yr oedd yn bleidiol i'r Senedd. Yr oedd yn aelod o'r Pwyllgor Compowndio yng Ngogledd Cymru ym mis Awst 1649, a bu'n gomisiynwr milisia dros Sir Feirionnydd o fis Mai 1651 ymlaen. Penodwyd ef yn aelod dros ei sir (Hydref 1653) gan Senedd Barebones, ar yr unig bwyllgor sirol a sefydlwyd gan y senedd honno, a bu hefyd yn aelod o'r pwyllgor a drefnai drethi'r sir yn ystod y ' Protectorate ' (Mehefin 1657). Nid oes tystiolaeth ddigonol dros y gosodiad fod Owen yn un o blaid y Bumed Frenhiniaeth. Pan adferwyd Senedd y 'Rump', gwnaed ef (Gorffennaf 1659) yn aelod o'r pwyllgor a drefnai'r milisia yng ngogledd Cymru. Cymerodd ran amlwg yng ngorchfygiad gwrthryfel Booth, a diolchwyd iddo gan Gyngor y Wladwriaeth ym mis Hydref 1659. Mor ddiweddar â Ionawr 1660 gwnaeth Senedd y 'Rump' ef yn aelod o'r pwyllgor sirol i drefnu trethi. Yn ôl ffynonellau Americanaidd mudiad y Crynwyr yr oedd yn llywiawdr Biwmares yn y cyfnod yn union o flaen yr Adferiad (dywedir bod John ap John yno gydag ef). Ym mis Ebrill 1660 cipiwyd Owen a rhai o'i gyd gomisiynwyr gynt, a'u carcharu yng ngharchar Caernarfon. Yn yr yn flwyddyn ymunodd â'r Crynwyr (ac yn ôl tystiolaeth Rowland Ellis, Bryn Mawr, defnyddid Dolserau yn gyson gan y Crynwyr i gynnal gwasanaethau). Yn 1661 carcharwyd Owen ac eraill yn Nolgellau am iddynt wrthod cymryd llwon teyrngarwch a goruchafiaeth, ond rhyddhawyd hwynt ymhen 15 mis wedi iddynt wneuthur cyffes o ffyddlondeb. Yn 1674 (wedi i fesur Goddefiad 1672 ddirwyn i ben), carcharwyd Owen eto yn Nolgellau, y tro hwn am bum mlynedd a hanner. Ymfudodd i Bennsylvania yn 1684, gyda'i wraig (a pherthynas) Jane, merch yr hynafiaethydd Robert Vaughan Hengwrt, a'u plant i gyd ond Robert, yr hynaf. Cyrhaeddasant Philadelphia 17 Medi 1684, ond bu Owen a'i wraig farw ymhen ychydig fisoedd (ac nid yn 1697 fel y dywedir weithiau). Am eu plant a'u disgynyddion, gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 201.
Buasai cysylltiad agos rhwng Robert Owen a'r 'brenin leiddiad', John Jones (1597? - 1660). Mewn llythyr a ddanfonodd John Jones at Forgan Llwyd yn 1651 (NLW MS 11440D , f. 43), ac a gyhoeddwyd yn rhannol yn Gweithiau Morgan Llwyd, ii, 291-2, awgrymir bod Owen yn ddiffygiol mewn 'discretion and Christian prudence', a bod ei lymdra yn dueddol i yrru pobl i fod yn bleidiol i'r gyfundrefn, ond yn rhagrithiol felly. Awgrymir hefyd mai doeth fyddai i Owen roddi cyfrif, yn wirfoddol, o'r arian cyhoeddus yr oedd yn gyfrifol amdano, er mwyn ateb y cyhuddiadau ei fod yn glynu wrtho.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.