Awdur Cambria Triumphans. Ail fab ydoedd, yn ôl y Lincolnshire Pedigrees (Harleian Society), i Thomas Enderby, cyfreithiwr yn ninas Lincoln, a'i wraig, Elizabeth, ferch Robert Rusforth, Coley Hall, sir Efrog. Yn ôl ei achres deuluol fe'i ganwyd rhwng 1604 a 1608 - fe'i gofnodwyd rhwng brawd a anwyd yn 1604 a chwaer a anwyd yn 1608. Gwraig Percy Enderbie oedd Winifred, chwaer Sir Edward Morgan o Lantarnam, a merch i'r ' Lady Frances,' ferch Edward, 4ydd iarll Worcester. Bu Enderbie fyw flynyddoedd yng Nghymru, dysgodd Gymraeg, a magodd sêl fawr dros genedl y Cymry a'i hanes. Yn ei ragair i'r Cambria Triumphans, a sgrifennwyd yn Llantarnam, dywed iddo gael llawer o'i ddefnyddiau yn llyfrgell ei frawd-yng-nghyfraith, Syr Edward Morgan. Cyhoeddwyd ei lyfr yn fuan ar ôl Adferiad y Brenin yn 1660, a'i amcanion oedd dangos mai 'brenhinol oedd dull llywodraeth Prydain erioed,' a thynnu sylw teulu Stuart at eu hachau Cymreig. Y llyfr hwn yw un o'r ffynonellau prin am wybodaeth o ffin yr iaith Gymraeg yn y 17eg ganrif.
Yn yr un flwyddyn, sef 1661, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg Enderbie o waith B. Pererius (Valentinus) yn erbyn sêr-ddewiniaeth. Yr oedd yn fwriad gan Enderbie sgrifennu hanes sir Fynwy, a chasglodd lawer o ddefnyddiau i'r perwyl hynny. Defnyddiwyd achau, etc., o'i waith gan David Williams yn ei The History of Monmouthshire, 1796, a dywed Bradney yn ei History of Monmouthshire mai Enderbie oedd awdur tebygol y ' Pistyll MSS. ' Honnir bod yr achau yn NLW MS 1472D yn seiliedig ar hen lawysgrif o waith Enderbie. Bu adargraffiad o'r Cambria Triumphans yn 1810.
Bu farw yn ôl argraffiad Bliss Anthony Wood (III, 994) yn 1670.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.