MORGAN (TEULU), Llantarnam, sir Fynwy

Cychwynna pwysigrwydd y teulu hwn (cangen o deulu Morganiaid Pencoyd, yn hawlio eu bod yn disgyn o Cadifor Fawr), pan brynwyd abaty diddymedig Llantarnam yn 1561 gan WILLIAM MORGAN (bu farw 1582), Grange Cefn Vynoch; gyda'r abaty yr oedd y maenorau perthynol iddo - Wentwood a Bryngwyn. Gan William, iarll Pembroke (bu farw 1570), y'u prynwyd; cawsai ef hwynt gan y frenhines Elisabeth yn 1559. Adeiladwyd plasty newydd gyda meini'r abaty eithr ymddengys i Morgan gadw hen greirgell Penrhys fel man pererindod, a defnyddiwyd ei dy ef i gynnal gwasanaeth yr offeren; er gwaethaf hyn i gyd daeth ef yn siryf ei sir yn 1568 a chynrychiolodd hi nid yn unig yn seneddau 1555 a 1557 yn ystod teyrnasiad Mari ond hefyd yn seneddau Elisabeth yn 1559 a 1571.

Dilynwyd ef yn y Senedd, yn 1584 a 1586, gan ei fab EDWARD MORGAN (bu farw 1633), a fu hefyd yn siryf yn 1582; priododd Florentia, ei ferch ef, Syr William Herbert, St. Julians.

Trwy briodas ei aer ef, THOMAS MORGAN, â Frances, ferch Edward Somerset, 4ydd iarll Worcester, daethpwyd â'r teulu yn nes i mewn i wersyll y Pabyddion milwriaethus; er yr ymddengys i Frances gael ei dwyn i fyny yn Brotestant, yr oedd hi wedi ei 'chymodi' â Rhufain trwy offerynoliaeth y Tad Robert Jones, ac yr oedd yn hael yn ei chymorth i genhadaeth Gymreig Cymdeithas Iesu; yr oedd dylanwad ei thad ar y Cyfrin Gyngor yn ei gwneuthur yn bosibl iddo fynd a dyfod yn fwy rhydd nag a ganiateid i Babyddion, ac felly yr oedd yn medru gwasnaethu fel dolen gydiol rhwng cynulliadau gwasgaredig o Babyddion megis y rheini yn Sir y Fflint. Trwy dalu dirwy o £100, cafodd faddeuant am wrthod y llw o deyrngarwch yn 1612.

Mab Thomas Morgan, sef Syr EDWARD MORGAN, a gawsai ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelododd fis Mai 1616, B.A. Gorffennaf 1619), a fu'n abl i sefydlu canolfan adran Gymreig Cymdeithas Iesu yn y Cwm, Swydd Henffordd, yn 1635. Yn yr ail 'Bishops' War' (1640) gwnaethpwyd Edward yn swyddog yn y fyddin a chaniatáu iddo godi cymorth gan ei gyd-grefyddwyr - a pharodd y gweithrediadau hyn ddadlau brwd yn y Senedd Faith, eithr ateb Charles oedd ei wneuthur yn farwnig (12 Mai 1642). Ymladdodd dros y brenin yn y Rhyfel Cartrefol, a chymerwyd ef yn garcharor yn Henffordd, 18 Rhagfyr 1645. Gwrthododd 'Senedd y Rump' gydnabod y teitl (17 Chwefor 1652), ac oherwydd fod Morgan yn frenhinwr cymerwyd meddiant o'i stad, a oedd yn werth £911 y flwyddyn, ac nis rhyddhawyd (ar 9 Tachwedd 1654) hyd ar ôl i farw ef (ar 24 Mehefin 1653). Priododd ei chwaer ef, Winifred, â Percy Enderbie, awdur Cambria Triumphans.

Daeth ei aer, Syr EDWARD MORGAN, yr ail farwnig, yn Brotestant, ac felly daeth yn bosibl i'r teulu ailgymryd rhan mewn materion seneddol; yr oedd y 3ydd barwnig, yntau hefyd yn Syr EDWARD MORGAN (bu farw 1681), yn cynrychioli'r sir yn 1680-1.

Pan fu ef farw, heb etifedd gwryw, aeth y stad o feddiant y teulu ac fe'i dilynwyd ef fel barwnig gan fab iau y barwnig 1af, Syr JAMES MORGAN; glynodd ef wrth hen grefydd y teulu, serch bod ei wraig yn Brotestant, a pharhaodd yn 'non-juror' ar ôl chwyldroad 1688. Pan fu ef farw (cyn 1727) daeth y teitl i'w derfyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.