JONES, ROBERT (1560 - 1615), offeiriad o urdd yr Ieswitiaid

Enw: Robert Jones
Dyddiad geni: 1560
Dyddiad marw: 1615
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad o urdd yr Ieswitiaid
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Martin Cleary

a phennaeth yr Ieswitiaid Seisnig o 1609 hyd 1613, ganwyd 1560, ger Y Waun, sir Ddinbych - yng Nghroesoswallt, medd adroddiad arall. Dichon ei fod yn ddisgybl i'r merthyr Richard Gwyn, ac yn sicr adwaenai deulu Edwardes, Plas Newydd, Y Waun, oblegid gyda Richard a Francis Edwardes y cyrhaeddodd Rheims, 20 Awst 1581; a chyda'r cyntaf y daeth i goleg y Saeson yn Rhufain ar 6 Tachwedd 1582. Ymhen chwe mis, 26 Mai 1583, ymgymerodd â nofisiaeth yr Ieswitiaid yn Sant Andrea. Yr oedd ei fri gymaint am ddysg fel, ar ddiwedd ei gwrs addysg a'i dderbyn yn Ieswit cyflawn, y bu o 1590 yn dal swydd athro athroniaeth yn y coleg Rhufeinig, a adweinid yn well dan y teitl y Brifysgol Regoraidd. Cedwir nodiadau o'i ddarlithiau, a gymerwyd gan ei fyfyrwyr, mewn amryw lyfrgelloedd yn Ewrob.

Yn gynnar yn 1595 fe'i rhoed gan Bennaeth Cyffredin (General) yr Ieswitiaid, Aquaviva, at alw y Tad Robert Persons, preffect y genhadaeth Ieswitiaid Seisnig, a fwriadasai ers hir o amser gyflenwi anghenion y Pabyddion yng Nghymru. Aeth Jones trwy'r Ysbaen, a chyrraedd Lloegr erbyn Gorffennaf 1595. Erbyn 1605 lluniasai gyfundrefn, gyda'i chanolfan yn Sir Fynwy ac estyn ar hyd y Gororau, gan gysylltu'r boneddigion Pabyddol, yr offeiriaid seciwlar Cymraeg a'r Ieswitiaid Cymraeg, gan gynnwys y Tadau Powell a Bennett, mewn cydweithrediad clós. Caed arian trwy un o broselytiaid Jones, yr Arglwyddes Frances Morgan, Llantarnam, lle y trigai ef am ysbeidiau hir. Yr oedd y gronfa'n ddigon i gynnal dau Ieswit yn y gogledd a dau yn y de, ac yn ddiweddarach fe'i defnyddiwyd gan y Tadau John Salusbury a Charles Gwynne, ill dau'n Ieswitiaid (gweler SALUSBURY, J. a theulu BODFEL, i rentu, ac yna i brynu'r fferm a adweinid fel y Cwm, Llanrhyddol, a oedd hyd 1678 yn bencadlys 'coleg' Ieswitaidd Cymraeg Sant Francis Xavier. Yn y flwyddyn 1604, heb sôn am flynyddoedd eraill, danfonodd Jones efrydwyr i'r seminarïau yn Valladolid a Douai, o siroedd Amwythig, Henffordd a Chaerwrangon. Amryw droeon hebryngwyd efrydwyr Cymraeg i'r seminariau gan y Tad James Morris, un o'r pedwar offeiriad seciwlar Cymraeg y gwyddys iddynt weithio tan gyfarwyddyd y Tad Jones. Dyma'r gweithgareddau, yn ddiau, sydd tan y cyhuddiad a dducpwyd yn ei erbyn yn 1605, ond nas profwyd, ei fod yn danseiliwr politicaidd, ac a eglura ymadrodd siryf Henffordd, ' Jones, yr Ieswit, a'r arch-derfysgwr ' ('the firebrand of all').

Daeth yn is-breffect yr holl genhadaeth Ieswitaidd yng Nghymru a Lloegr, 30 Mawrth 1609, mewn argyfwng yn helyntion y Pabyddion. Yn 1608 ail-ddechreuwyd dienyddio offeiriaid, a rhoddwyd dwysach grym yn y llw teyrngarwch gan broclamasiwn 2 Mehefin 1610. Heuai'r llywodraeth hadau anghytundeb yn ddirgel ymhlith y Pabyddion erlidiedig; bu cryn ddiddordeb trwy Ewrob benbaladr yn y dadlau ynghylch y llw, a chymerth cyfaill Jones, y Cardinal Robert Bellarmino, ran ynddo. Y mae llythyrau Jones yn cynnwys tystiolaeth werthfawr am gwrs y ddadl, ac adlewychant ei arweiniad diymod. Ceir detholiad o 48 tt. o'r llythyrau hyn yn Records Foley, gan gynnwys un at Bellarmino. Dangosant, hefyd, i offeiriaid Cymreig y Blaid Apelyddol wrthod torri'u henwau ar betisiwn 1610 i Rufain i apwyntio esgob, ' onid addewir Archesgob i ganlyn Dewi '. Erbyn 1609 gorffenasai Jones, ac anfon i Rufain, gyfieithiad Saesneg o draethawd De Potestate Papae; ond gwrthododd Claudio Aquaviva, prif lywodraethwr y Gymdeithas, ganiatâd i'w gyhoeddi, gan ddilyn yr hen bolisi o nacáu, cyn belled ag yr oedd yn bosibl, gyfle lleol i wrthwynebwyr greu rhwyg. Ysgrifennodd yn Eidaleg adroddiad ar ddienyddiad y Tad Roger Cadwaladr yn Llanllieni yn 1610, y llwyddasai i ymweled ag ef yng ngharchar y diwrnod y'i condemniwyd i farwolaeth. Yn rhan olaf 1611 yr oedd ei iechyd yn peri pryder i'w gydweithwyr ac i Aquaviva yn Rhufain, a oedd, fodd bynnag, yn amharod i gytuno â chais Jones i gael rhywun arall i gymryd ei le fel is-breffect. Enwyd ei olynydd, y Tad M. Walpole, 17 Awst 1613, a dechreuodd ar ei waith ym mis Hydref. Tan arweiniad Jones cynyddasai'r cenhadon Ieswitaidd i 57 offeiriad yng Nghymru a Lloegr, a thrwy ei weithgarwch ef yn bennaf y gallodd catalog is-dalaith newydd Lloegr restru yn 1621 10 offeiriad Ieswitaidd yn gweithio yn y genhadaeth Gymreig. Bu farw'r Tad Jones yng Nghymru, 20 Awst 1615, mewn canlyniad i'r niwed a gafodd wrth syrthio ar noson dywyll pan frysiai i fedyddio baban. Ysgrifennodd ei olynydd amdano: ' Treuliodd ei yrfa fel cenhadwr yn bennaf ymhlith y Brytaniaid, hen drigolion yr ynys hon, yng Nghymru, gwlad fynyddig a go anffrwythlon. Bu fyw'n brysur a llafurus ac mewn perygl ymhlith pobl sy'n dal i lynu wrth yr hen grefydd '. Geilw Foley ef ' yr Ieswit hwn o nod ' (distinguished), ac argraffa lythyr huawdl, sy'n adlewyrchu'i nodweddion aruchel, a ddanfonodd at ei gymrodyr Ieswitaidd mewn dyddiau o adfyd du.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.