Y mae'r hen deulu hwn, o swydd Ddinbych, ac yn disgyn o Tudur Trefor, i'w gael wedi ymsefydlu'n gynnar yng nghwmwd Nanheudwy a changhennau ohono yn Sir y Fflint. Daw'n bwysig i gychwyn ym mherson JOHN AB EDWARD, neu EDWARDS (bu farw 1498), ' derbynydd ' a phrif fforestydd Chirkland o dan Syr William Stanley. Enwogodd ei fab ef, WILLIAM EDWARDS (bu farw 1532), ei hun yng ngwarchae Tournai (1513), dewiswyd ef gan abad olaf Glyn y Groes yn oruchwyliwr maenorau'r abaty (1529), a daeth yn aelod o osgorddlu Harri VIII. Rhoes Harri iddo brydles ar diroedd yn arglwyddiaeth y Waun (Chirkland) pan ddaeth honno'n ôl i feddiant y Goron, a'i wneuthur hefyd yn gwnstabl ei chastell (1526) a rhoddi ' A fynno Duw derfydd ' iddo fel arwyddair. Daeth ei fab ef, JOHN EDWARDS I, yn ddirprwy-gwnstabl y castell (1543), yn siryf sir y Fflint (1546), ac yn siryf swydd Ddinbych (1547); buasai'n ymladd yn Boulogne yn 1544. Glynodd y teulu wrth yr hen grefydd hyd amser ei fab yntau, JOHN EDWARDS II (bu farw 1585). Serch iddo gael ei ddrwgdybio yn 1574 o ymlyniad wrth Mari, frenhines Sgotland, a chael ei garcharu yn 1579 am wrando'r offeren yn ei dŷ, bu i JOHN EDWARDS II ymwrthod â'r pab yn gyhoeddus yn Wrecsam adeg dienyddio Richard Gwyn yn 1582. Ychwanegodd yn fawr at ystadau'r teulu trwy brynu (c. 1562) tiroedd a ddaethai'n eiddo i'r Goron wedi dienyddio Syr William Stanley; adeiladodd y tŷ a elwid yn Plas Newydd (neu New Hall) ar y cyntaf ac wedyn yn Chirk Hall.
Yr oedd JOHN EDWARDS III (bu farw 1625), mab John Edwards II, yn Babydd yn 1586, ond cydffurfiodd ddigon i gael ei wneuthur yn ustus heddwch (yn 1595); yn 1588 llwyddodd i ennill sedd seneddol y sir yn erbyn William Almer, Pant Iocyn, a gynrychiolai y teuluoedd seneddol a Phrotestannaidd traddodiadol; eithr bu i Almer, gyda chymorth ei dad-yng-nghyfraith Protestannaidd, Roger Puleston,, Emral, herio'r ethol yn Llys Ystafell y Seren. Collfarnodd Puleston y cyngaws yn y Senedd a dywedyd ei fod yn gyfystyr â thor breiniau; daeth sesiwn y Senedd i ben cyn y cafwyd dyfarniad. Bu llawer o stŵr yn y sir o'r herwydd, gyda llawer o gythrwfl ac o ymgyfreithio. Yn y cyngaws hwn a rhai a'i dilynodd yn Llys y Seren - yn un ohonynt cyhuddwyd Edwards gan Lord St. John o Bletso o wrthwynebu'n anghyfreithlon ei hawliau ef fel arglwydd Chirkland (yn olynydd i iarll Leicester); mewn un arall (1595) achwynid yn erbyn y dull yr oedd Edwards yn gweithredu fel ustus heddwch - nid anghofiwyd edliw i Edwards iddo fod yn Babydd. Cafodd bardwn pan ddaeth Iago I i'r orsedd. Eithr pan basiwyd deddfau newydd yn erbyn Pabyddion ar ôl Brad y Powdr Gwn, ac yn enwedig pan wrthododd yntau gymryd y llw newydd o warogaeth, fe'i cafodd Edwards ei hun mewn helynt o'r newydd. Er iddo geisio llonyddwch trwy ddylanwad 4ydd Iarll Worcester yn y Cyfrin Gyngor cyhuddwyd Edwards o dan y ddeddf a'i ddirwyo hyd ddwy o dair ran yr ystad - dyrnod drom a glwyfodd y teulu dros byth bron. Cyhuddwyd ef ymhellach yn Llys y Seren (1619) o aflonyddu ar yr heddwch pan aeth swyddogion y siryf i'w dŷ (Plas Newydd) i chwilio am Babyddion ac oblegid llythyr a anfonodd at y barnwyr yn y Sesiwn Fawr yn condemnio'r driniaeth a gawsai, ac fe'i taflwyd ef i garchar y Marshalsea. Ar yn un pryd bu anghyd-ddealltwriaeth rhyngddo ag arglwydd newydd Chirkland, Syr Thomas Myddelton; yr oedd bod hwnnw wedi prynu'r arglwyddiaeth yn gasbeth ganddo a gwnaeth ei orau i roddi rhwystrau ar ffordd ei fwriadau a'i weithredoedd diwydiannol ac economyddol. Yr oedd hefyd anghytundeb rhyngddo a'i fab a'i aer ei hun; ceisiodd hwnnw (1624) gael gan y Senedd fesur i wrthdroi datganiad (ynglŷn a setlo'r ystad) a gawsai'r tad yn y ' Court of Requests '; diwedd hyn fu i'r Arglwyddi orchymyn i'r achos gael ei ystyried gan ganolwyr. Ynghanol yr holl helyntion hyn bu Edwards farw yn Llundain yn 1625. Bu'n cynorthwyo i gasglu defnyddiau ar gyfer geiriadur Thomas Wiliems a'i galwodd yn 'wir ymgeleddwr yr iaith Gymraec' (Y Greal, 1805, 64).
Cydymffurfiodd ei fab JOHN EDWARDS IV (bu farw 1646) tua 1632; efe oedd yr un a geisiasai wrthdroi'r setlo a wnaethai ei dad ar yr ystad. Parhaodd gweryl ei dad gyda theulu Myddelton. Bu'n ddirprwy-raglaw ac yn gomisiynwr gwŷr ac offer arfau rhyfel yn ei sir, ac yr oedd gyda'r llu brenhinol a oedd yn amddiffyn Harlech, eithr bu farw (Chwefror 1647) ychydig cyn i'r castell hwnnw gael ei ddarostwng. Rhoddwyd dirwy hyd y degfed (£80) ar yr ystad serch ei bod erbyn hynny (1649) ym meddiant ei fab, JOHN EDWARDS V (bu farw 1674). Ymheddychodd hwnnw â'r Werinlywodraeth (gan ei gwasnaethu fel siryf sir Ddinbych yn 1653) ac â'r Myddeltoniaid, gan ymuno a hwynt (gyda'i fab) yng ngwrthryfel Booth (1659). Erbyn hynny cyfrifid nad ydoedd yr ystad yn werth mwy na £500 y flwyddyn, gyda thaliadau allan o hynny yn costio £200 y flwyddyn a dyledion o £800. Daeth y llinell uniongyrchol i'w therfyn pan fu WILLIAM EDWARDES, a oedd yn siryf yn 1682, farw yn 1685 ac aeth yr ystad, trwy briodas, i'r Pilstyniaid, a'i gwerthodd yn 1721. Yn y cyfamser yr oedd cangen iau o'r teulu wedi prynu tiroedd yn Sir Benfro yn gynnar yn yr 17eg. ganrif, a ddaeth i feddiant FRANCIS EDWARDES (bu farw 1725), aelod seneddol Hwlffordd, 1722-5, a briododd Elizabeth, merch Robert Rich, 5ed iarll Warwick. Pan fu'r 7fed iarll Warwick farw yn 1759 yn ddietifedd aeth ystadau'r teulu yn Kensington, trwy Elizabeth, i'w mab hwynt WILLIAM EDWARDES, a grewyd yn FARWN KENSINGTON ym mhendefigaeth Iwerddon yn 1776. Cadwodd y teulu ei blasty yn Sir Benfro a daeth rhai aelodau ohono yn arglwydd-raglawiaid ac yn aelodau seneddol dros Hwlffordd hyd nes y collodd y fwrdeisdref honno, yn 1885, ei hawl i ethol aelod iddi ei hun; yn y flwyddyn honno gwnaethpwyd WILLIAM EDWARDES, y 5ed barwn Kensington, yn farwn ym mhendefigaeth y Deyrnas Gyfunol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.