ALMER (neu ALMOR), teulu Almer a Pant Iocyn, sir Ddinbych.

Yr oedd y teulu yn disgyn yn llinell ddidor o Ithel Eunydd, ail goncwerwr gwlad Dinbych y sydd i'r dwyrain o'r Clawdd (sef Clawdd Offa). Mabwysiadwyd y cyfenw'n gyntaf gan JOHN ALMER, gŵr a ddaliai swydd heb fod yn bwysig yn llys Harri VIII ac a drefnodd i'w feibion John a William gael eu dewis yn rhingylliaid-ag-arfau. Rhwng 1554 a 1558 chwalwyd Almer i'r llawr a chludwyd ei feini a'u defnyddio i adeiladu Pant Iocyn heb fod ymhell i ffwrdd. Daeth y teulu'n bwysig yng ngwleidyddiaeth swydd Ddinbych ar ôl pasio Deddfau'r Uno.

Bu EDWARD ALMER, ŵyr y John Almer cyntaf, yn siryf yn 1554, ac fe'i hetholwyd yn farchog y sir yn 1555; Edward Almer arall, y mae'n debyg, oedd siryf 1571. Dilynodd WILLIAM ALMER ei dad yn y Senedd yn 1572. Bu teyrngarwch crefyddol y teulu yn ansicr hyd cyn belled â 1574. Yn wleidyddol yr oedd ei aelodau, fel rheol, yn ochri gyda Llewenni yn y gorllewin ac Emral yn y dwyrain o blaid y drefn sefydledig ac yn erbyn rhai o'u cymydogion anfoddog a gwrthbleidiol. Yn etholiad 1588 gorchfygwyd William Almer (a gafodd gymorth teulu Llewenni) gan John Edwards o'r Waun, a gâi gymorth papistiaid y Waun, a chymorth teulu Emral, am resymau teuluol; heriodd Almer gywirdeb yr etholiad trwy gychwyn cyngaws yn Llys Ystafell y Seren a chyhuddo plaid Edwards o lwgrwobrwyaeth. Aeth yr ystad o ddwylo'r teulu o ddiffyg aer i WILLIAM ALMER, mab y William Almer uchod; gwerthwyd hi yn 1613 ac yn raddol fe'i llyncwyd nes iddi ddod yn rhan o ystadau eraill yn y gymdogaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/