Ganwyd yn Stretton Sugwas, sir Henffordd. Ymaelododd yn athrofa Reims yn 1590, ac urddwyd ef yn offeiriad yn Valladolid yn 1593. Gororau De Cymru oedd maes ei genhadaeth a ducpwyd ef oddi yno i garchar yn 1610. Buasai'n bleidiol i'r Offeiriaid 'Appellant', 1600-03, ac yn wrthwynebol i'r gweddill o'r clerigwyr a'r Jesiwitiaid, ond yn ddiweddarach newidiodd ei syniadau, ac ymwelwyd ag ef yn y carchar y dydd y condemniwyd ef i farwolaeth, gan y Tad Robert Jones pennaeth y Jesiwitiaid yn Lloegr. Y Tad Jones a ysgrifennodd, mewn Eidaleg, hanes ei ddienyddiad yn Leominster, 27 Awst 1610.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.