WILLIAMS, DAVID (1738 - 1816), llenor a phamffledydd gwleidyddol

Enw: David Williams
Dyddiad geni: 1738
Dyddiad marw: 1816
Priod: Mary Emilia Williams
Plentyn: Emilia Williams
Rhiant: William David
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor a phamffledydd gwleidyddol
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Williams

Ganwyd yn 1738 yn Waunwaelod (y Carpenters’ Arms yn ddiweddarach), plwyf Eglwysilan, gerllaw Capel Watford, ar ochr heol (nid y briffordd) yn arwain o Gaerffili i Gaerdydd. William David (un o ddychweledigion Howel Harris), a aned yn Llwynybarcud, plwyf Llanharry, oedd ei dad. Cafodd ei addysg mewn ysgol a gedwid yn y gymdogaeth gan David Williams (1709 - 1784). Yn unol â dymuniad a wnaeth ei dad ar ei wely marw (1752) penderfynodd David Williams fyned i'r weinidogaeth Anghydffurfiol. O 1753 hyd 1757 bu'n efrydydd yn academi Caerfyrddin. Yn y cyfnod hwn yr oedd yr academi yn nodedig am anuniongrededd, a dylanwadodd hyn, yn ddiamau, ar syniadau Williams. Bu'n gweinidogaethu yn olynol yn Frome (1759-61), Exeter (1761-9), a Highgate, Middlesex (1769-73). Gadawodd y weinidogaeth, oherwydd fod y cyflog a dderbyniai yn annigonol iddo dreulio'r math o fywyd a ewyllysiai ef.

Yr oedd eisoes wedi sgrifennu ar gwestiwn gwella gwasanaethau crefyddol ac ar y chwaraedy pan agorodd, yn 1773, ysgol breswyl gostus yn Lawrence Street, Chelsea. Yr oedd bellach yn briod; enw ei wraig oedd Mary Emilia. Ar 9 Rhagfyr 1774 ganwyd merch iddynt, a enwyd yn Emilia, ac ar yr ugeinfed o'r un mis bu farw y wraig. Bedyddiwyd yr eneth ar 12 Chwefror 1775 eithr ni chlywir mwy amdani; y mae'n bosibl iddi farw pan oedd yn blentyn. Pan gollodd ei wraig rhoes Williams yr ysgol i fyny. Yr oedd eisoes, fodd bynnag, wedi sgrifennu ei Treatise on Education, 1774.

Yr oedd ysgrifeniadau Williams wedi tynnu sylw Benjamin Franklin, a gafodd loches ‘from a political storm’ ar un achlysur yn nhŷ Williams yn Chelsea. Ffurfiodd y ddau y ‘Thirteen Club,’ yn cynnwys nifer o ddeistiaid, ac ysgrifennodd Williams iddynt ei lyfr, A Liturgy on the Universal Principles of Religion and Morality, 1776. Cafodd y gwaith hwn ei ganmol gan Frederick II, Voltaire, a Rousseau. Pan ymddangosodd y llyfr sylfaenodd Williams ‘cult of nature’ mewn capel yn Margaret Street, Cavendish Square. Eithr yr oedd Franklin wedi dychwelyd i America erbyn hyn, a throes llawer o'r addolwyr yn anffyddwyr; a bu'r arbrawf yn fethiant.

Ysgrifennodd Williams Letters on Political Liberty, 1782, i amdiffyn y trefedigaethwyr yn America; yn hwn yr oedd yn cefnogi program o ddiwygiad gwleidyddol a oedd yn radicalaidd iawn. Cyfieithwyd y llythyrau hyn yn Ffrangeg gan Brissot a daeth yr awdur yn enwog yn Ffrainc o'u plegid. Ym mis Hydref 1792 gwnaethpwyd ef yn ddinesydd Ffrengig, a gwahoddwyd ef i Baris i gynorthwyo yn nhynnu allan gynllun cyfansoddiad Girondaidd. Arhosodd ym Mharis o ddechrau mis Rhagfyr 1792 hyd ddechrau mis Chwefror 1793, a phan ddychwelodd gofynnodd Le Brun, gweinidog tramor Ffrainc, iddo gyflwyno cynigiadau heddwch.

Cynhaliai Williams ei hun trwy gymryd disgyblion preifat (amryw ohonynt yn wŷr a ddymunai chwarae rhan mewn bywyd cyhoeddus ond na chawsent ond ychydig addysg), trwy draddodi darlithiau cyhoeddus, a thrwy wneuthur gwaith llenyddol am dâl. Ei waith mwyaf ei faint oedd ei History of Monmouthshire, 1796. Ymwelodd a Ffrainc ar ôl heddwch Amiens, yn ôl pob tebyg ar gais Llywodraeth Prydain, a chynhyrchodd adroddiad (mewn llawysgrif) ar gyflwr syniadaeth y cyhoedd ynglŷn â Bonaparte.

Prif hawl Williams i enwogrwydd ydyw iddo sefydlu y Royal Literary Fund i gynorthwyo awduron anghennus; ar 18 Mai 1790 y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y gronfa. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yng nghartref y gronfa hon yn 36 Gerrard Square, Soho, ac yno y bu farw ar 29 Mehefin 1816.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/