Ganwyd yn 1709 yn ail fab i William a Catherine David, Pwll-y-pant (rhwng Caerffili a Llanbradach) - yr oedd y teulu'n dda eu byd. Bu yn academi Caerfyrddin dan Perrott, ac yn 1734 urddwyd ef yn weinidog eglwys (Saesneg) Trinity, Caerdydd. Bechan a marwaidd oedd cynulleidfa Trinity, ond yr oedd David Williams (fel ei ragflaenydd) hefyd yn fugail Annibynwyr gwasgarog plwyf Eglwysilan, a ymgynullai mewn tai annedd hyd nes codwyd capel (1739) yn ymyl plas Thomas Price (' yr ustus Price '), Watford (a sgrifennir hefyd yn 'Waterford' a 'Votford' - efallai mai Bodffordd), ar y mynydd rhwng Caerdydd a Chaerffili. Ar y cyntaf, yr oedd gweinidogaeth David Williams yn egnïol iawn, yn yr un ysbryd â'i gyfeillion James Davies o Merthyr Tydfil, ac Edmund Jones. Pan ddaeth y diwygiad Methodistaidd, croesawodd ef yn galonnog. Gwahoddodd Howel Harris i ymweld ag Eglwysilan, a threfnodd oedfa iddo; gweler llythyr 110 yng nghasgliad Trefeca, 17 Mai 1738. Sgrifennai'r daeuddyn at ei gilydd trwy gydol 1738 a 1739; sonia'r llythyrau am sefydlu seiadau yma a thraw, am Williams yn pregethu mewn amrywiol fannau, ac am ei gyfeillgarwch â John Thomas, curad Methodistaidd y Gelligaer. Clywir hefyd am ysgol yn y plwyf dan nawdd Griffith Jones, Llanddowror, a David Williams yn archebu rhai cannoedd o gatecismau Griffith Jones ac yn gohebu ag ef - yn ddiweddarach (1741) gwelir llythyr gan David Williams yn y Welch Piety. Ond erbyn 1740 nid oedd hi'n dda rhwng Williams a Harris. Yr oedd y genhadaeth Fethodistaidd wedi dwyn i mewn i eglwys Watford gryn nifer o aelodau newyddion, ac ni ddygymyddai'r gwin newydd â'r hen gostrel. Ar ben hynny, yr oedd Harris wedi ei gipio ar y pryd gan yr athrawiaeth o 'sicrwydd maddeuant,' ac yn gwneuthur datganiad o 'sicrwydd' yn amod aelodaeth o seiat - a Williams, arafach ei bwyll, yn gwrthod ystyried y broffes yn anhepgor. Yn fyrbwyll fel arfer, ni adai Harris lonydd i'r peth; sgrifennodd yn llym at Williams a'i gyhuddo o 'glaearwch ysbrydol' - gwaeth fyth, cyhoeddodd ym mhulpud Watford ac yn y seiat yno fod ei weinidogaeth yn 'gnawdol.' Darfu'r ohebiaeth rhyngddynt ar wahân i lythyr a sgrifennodd David Williams at Harris tua 1747. Yn y cyfamser, yr oedd yr elfen Fethodistaidd wedi cefnu ar eglwys Watford, ac wedi sefydlu seiat led-Fethodistaidd (a droes wedyn yn eglwys Annibynnol) yn y Groes-wen, a chodi capel yno yn 1742; ac wrth gwrs nid oedd David Williams yn bresennol yn sasiwn enwog ' Watford ' yn Ionawr 1743, pa un bynnag oedd y ' New Room ' y cynhaliwyd hi ynddi, ai capel Watford neu gapel y Groeswen (yn y plas y lletyai'r arweinwyr). Edwinodd yr eglwys yn Watford. A fu David Williams erioed yn Galfin egwyddorol sydd ansicr (noder i Charles Wesley bregethu yn y capel yn 1740 a 1741), ond sut bynnag, adweithiodd yn awr (fel amryw o gefnogwyr Annibynnol cynnar Methodistiaeth) i gyfeiriad Arminiaeth ac Ariaeth, a chwympodd allan fwyfwy â'i hen gyfeillion Edmund Jones a Philip David - ofna Philip David (dyddlyfr 1784) ei fod wedi tueddu'n fawr at Ariaeth a Sosiniaeth; a noda Edmund Jones (1773) ei fod yn gwadu'r pechod gwreiddiol ac yn cydgynadledda ag Ariaid Gorllewin Cymru - ond cythruddwyd yr ' Hen Broffwyd ' yn fwy fyth pan glybu (1780) fod David Williams ymhlaid rhyddfreinio'r Pabyddion. Merch i James Davies o Ferthyr Tydfil oedd ei wraig, a phan droes tri o'i feibion yn ddynion drwg, gwêl Edmund Jones yn hynny (1773) farn yr Arglwydd ar wrth-giliadau athrawiaethol eu tad. Preswyliai David Williams yn nhŷ ei dad ym mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, ond symudodd wedyn i'r Cwm, yn nes at Watford, a chadwai yno ysgol yr oedd gair uchel lawn iddi - yno yr addysgwyd Thomas Morgan ' Henllan ' a Morgan John Rhys, a hefyd David Williams (1738 - 1816); y mae tuedd i gymysgu'r ddau ' David Williams, Watford.' Bu farw'r gweinidog 5 Ebrill 1784, yn 75 oed, a chladdwyd ym mynwent ei gapel. Tystia pawb ei fod yn fawr iawn ei barch ar hyd ei fywyd. Olynwyd ef (yn Watford a Chaerdydd) gan ei fab THOMAS WILLIAMS, a oedd am dair blynedd cyn hynny'n weinidog Ynysgau, Merthyr Tydfil; ond erbyn 1788 yr oedd wedi cael urddau yn Eglwys Loegr, a bu farw'n hen ŵr yn ficer ac ysgolfeistr yn Hampshire.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Bu'n briod ddwywaith. Bu farw ei wraig gyntaf, Mary, yn 24 oed, 27 Medi 1745. Mary oedd enw ei ail wraig hefyd a bu hi farw 24 Rhagfyr 1787 yn 67 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.