SION CAIN (c. 1575 - c. 1650), arwyddfardd

Enw: Sion Cain
Dyddiad geni: c. 1575
Dyddiad marw: c. 1650
Rhiant: Gwen wraig Rhys Cain
Rhiant: Rhys Cain
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arwyddfardd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

Mab Rhys Cain, a anwyd, y mae'n debyg, cyn i'r teulu ymsefydlu yng Nghroesoswallt tua 1578. Dilynodd ei dad yn ei alwedigaeth, ac edrychid arno, yn ei ddydd, fel yr olaf o'r arwyddfeirdd. Gadawodd rai nodiadau sy'n awgrymu ei fod yn rhyw gymaint o amaethwr hefyd. Teithiodd yn helaeth yng Ngogledd Cymru yng nghwrs ei alwedigaeth. Dechreua cofnodion ei yrfa gyhoeddus gydag ymweled â Llywenni, gyda beirdd eraill, yng ngwyliau Nadolig, 1607. Rhwng hynny a 1648 erys dros 300 o'i gywyddau achyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn ei law ei hun. Ni fedrir dyddio dim o'i waith ar ôl 1648, a gellir casglu iddo farw tua'r adeg honno. Bu ei wraig farw 12 Hydref 1646 (Peniarth MS 178 (79)), ac mewn deiseb at y cyrnol Mytton, yn erbyn gosod milwyr i letya yn ei dŷ (yn 1644?), cyfeiria at ei deulu hefyd. Daeth ei lawysgrifau i feddiant Robert Vaughan, Hengwrt, a ohebai'n weddol gyson ag ef. Erys tua 40 o lythyrau a ysgrifennwyd ato ar faterion achyddol (Peniarth MS 327 ), casgliadau o'i farddoniaeth (Peniarth MS 90 , Peniarth MS 116 , Peniarth MS 117 ), casgliad herodrol (Peniarth MS 149 ), a chasgliad achau (Peniarth MS 269 ). Di-awen iawn yw ei gywyddau achau ac ni fedrai amrywio llawer hyd yn oed ar ei linellau agoriadol. Nid oedd cystal crefftwr â'i dad. Y mae ei dariannau arfau yn llawer mwy aflêr, a'i law yn frasach nag eiddo'i dad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.