MYTTON (neu MITTON), THOMAS (1608 - 1656), Halston, gerllaw Croesoswallt, un o brif swyddogion byddin plaid y Senedd

Enw: Thomas Mytton
Dyddiad geni: 1608
Dyddiad marw: 1656
Priod: Margaret Mytton (née Napier)
Rhiant: Margaret Mytton (née Owen)
Rhiant: Richard Mytton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o brif swyddogion byddin plaid y Senedd
Home: Halston
Place: Croesoswallt
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Hanoedd o hen deulu, dinasyddion yn Amwythig, a oedd wedi casglu ynghyd nifer o stadau trwy briodi aelodau o hen deuluoedd tiriog Sir Amwythig. Trwy un o'r priodasau hyn, yn gynnar yn y 15fed ganrif, daeth y teulu'n arglwyddiaid etifeddol Mawddwy, a chafodd Halston, cartref y teulu, gan hendaid Thomas Mytton trwy gyfnewid. Ymbriododd ei dad, Richard Mytton, â Margaret, merch Thomas Owen (barnwr yn llys y ‘Common Pleas’ ac aelod o Gyngor y Goror yn Llwydlo) a chwaer Syr Roger Owen, a symudwyd oddi ar fainc yr ynadon dros Sir Amwythig yn y flwyddyn 1614 am ei ran gyda Phiwritaniaid eraill yn yr wrthblaid yn Seneddau Iago I.

Addysgwyd Thomas yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, 1615, ac yn Lincolns Inn, 1616. Yn 1629 priododd Margaret, ferch Syr Robert Napier, Luton, a chwaer-yng-nghyfraith Syr Thomas Myddelton (1586 - 1667); nid oes eisiau awgrymu, fel y gwnaethpwyd yn D.N.B., fod ei gydymdeimlad â phlaid y Senedd yn tarddu o'r ffynhonnell hon — o gofio cymaint cryfder y teimlad Piwritanaidd o gylch Croesoswallt ac yn nheulu ei fam. Pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol, rhoddwyd iddo radd cyrnol ym myddin y Senedd; bu ar gyrch llwyddiannus ar ffiniau siroedd Amwythig a Dinbych, gan lwyddo i gymryd Wem (11 Medi 1643), Croesoswallt (23 Mehefin 1644), ac, yn nes ymlaen, dref Amwythig (22 Chwefror 1645). Ar 12 Mai 1645 fe'i dewiswyd i ddilyn Syr Thomas Myddelton yn brif bennaeth y byddinoedd yng Ngogledd Cymru, a rhoddi iddo radd cadfridog; wedi iddo lwyddo i rwystro'r ymdrech i gael Caer yn rhydd o'i gwarchae (trwy orchfygu Syr William Vaughan gerllaw Dinbych, 1 Rhagfyr 1645), gorchfygodd y naill ar ôl y llall o'r gwarchodluoedd brenhinol: Rhuthyn, Caernarfon, Biwmares, Conwy, Dinbych (1646), Holt, a Harlech (1647), ac felly llwyddodd i gwpláu'r gwaith o ddod â Gogledd Cymru dan reolaeth plaid y Senedd. Ar 30 Rhagfyr 1647 rhoddwyd iddo £5,000 a gymerasid o stadau rhai a gyfrifasid yn ‘delinquents’ a chafodd hefyd y swydd o is-lyngesydd Gogledd Cymru. Yn yr ail Ryfel Cartrefol llwyddodd i ladd gwrthryfel Syr John Owen yn ei ddechreuad bron, gan ei orchfygu ef mewn ysgarmes ar lan y môr yn y Dalar Hir, Llandegai (5 Mehefin 1648), a dyfod â sir Fôn dan oruchafiaeth ar ôl ailgymryd castell Biwmares (2 Hydref 1648). Ar 25 Mehefin 1651 rhoddwyd ef ar yr uchel lys barn a drefnwyd gan Senedd y ‘Rump’ i brofi'r ‘delinquents’; yr un flwyddyn yr oedd yn aelod o'r llys milwrol (‘court martial’) yng Nghaer a gondemniodd iarll Derby. O 1647 hyd 1652 gwasnaethai'n aml fel comisiynwr trethi'r Llywodraeth a chomisiynwr y milisia yn siroedd Gogledd Cymru. Bu'n cynrychioli sir Amwythig yn Senedd gyntaf y Protectorate’ (1654), ac yr oedd yn gomisiynwr sirol yno at bwrpas treth y ddegfed (’the decimation tax’) ym mis Rhagfyr 1655. Bu farw ym mis Tachwedd y flwyddyn ddilynol. Y mae ei lythyrau yn awgrymu gŵr o anianawd ddyngarol a charedig, a dywed yr archesgob John Williams ei fod yn ‘well-beloved’ yng Ngogledd Cymru (Cal. Wynn Papers, 1834); eithr y mae'r modd y triniodd garcharorion Gwyddelig a gymerwyd yng Nghonwy yn staen ar ei gymeriad.

Daeth cangen arall o'r teulu, yn disgyn o frawd iau hendaid Thomas Mytton, i feddu tiroedd yn Sir Drefaldwyn; ymbriododd gyda theulu Devereux o'r Faenor, a sefydlu teulu Mytton, Garth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/