OWEN, LEWIS (1572 - 1629?), dadleuydd gwrth-Babyddol

Enw: Lewis Owen
Dyddiad geni: 1572
Dyddiad marw: 1629?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dadleuydd gwrth-Babyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd 1572 yn sir Feirionnydd. Nid oes sicrwydd ynglŷn â'i deulu, ac y mae'n amheus ai yr un ydoedd â mab hynaf Gruffydd Owen, Talybont, Llanegryn, pedwerydd mab y barwn Lewis Owen o'r Llwyn, Dolgellau. Ymaelododd yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, 14 Rhagfyr 1590, ond gadawodd y coleg heb raddio ac aeth i deithio'r Cyfandir. Dywedir iddo gael ei dderbyn yn aelod o Gymdeithas Iesu, ond yn ddiweddarach troes yn un o elynion pennaf y gymdeithas honno ac aeth yn ysbïwr yng ngwasanaeth Llywodraeth Loegr. Cyhoeddodd yn 1626 The Running Register, recording a True Relation of the English Colledges, Seminaries and Cloysters in all Forraine Parts, etc., lle y ceir cryn dipyn o hanes y colegau hynny ac o rai o'r Cymry a'u mynychai. Ef hefyd ydoedd awdur The Unmasking of all Popish Monks, etc., 1628, a gyflwynodd i Syr John Lloyd, Aberllefenni a Cheiswyn, a Speculum Jesuiticum, 1629. Dywed W. Llewelyn Williams iddo farw yn 1629.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.