O Esclus, sir Ddinbych; mab Evan Lloyd, Dulasau, Sir Gaernarfon (nid mab Primus Lloyd, Marrington, fel y dywed y D.N.B.). Ymsefydlasai ei deulu ers canrifoedd yng nghyffiniau Penmachno, gan hawlio eu bod yn disgyn o fab anghyfreithlon i Ddafydd, brawd y tywysog Llywelyn olaf. Yr oedd Syr Richard yn nai i offeiriad Rhiwabon ac yn gefnder i dri offeiriad arall yng Ngogledd Cymru ac i Humphrey Lloyd, esgob Bangor. Aeth i'r Inner Temple yn 1631, bu'n gwasanaethu ar negeseuau dros ei wlad mewn gwledydd tramor yn 1635-6, a phan ddychwelodd rhoddwyd iddo'r hawl i ddilyn y gwr a ddaliai ar y pryd y swydd o 'Prothonotary' a chlerc i'r Goron yn siroedd Dinbych a Threfaldwyn. Bu'n gwasnaethu Siarl I pan oedd hwnnw ar gyrch yn Sgotland yn 1639. Wedyn fe'i gwnaethpwyd yn atwrnai cyffredinol dros Ogledd Cymru; yn y swydd honno bu'n ddiwyd iawn, o Awst 1641 hyd Ebrill 1642, yn gwrthweithio'r cynnwrf a wneid gan rai a geisiai ddifodi cyngor y goror yn Llwydlo - ei ddull ef o wrthweithio oedd mabwysiadu mesurau gohirio neu wneud cynigiadau gwrthgyferbyniol; yn gynnar ym mis Mehefin aeth i Gaerefrog at y brenin gan ddwyn iddo ddatganiadau o deyrngarwch chwe sir Gogledd Cymru. Bu'n croesawu a lletya'r brenin pan ymwelodd hwnnw â Wrecsam ar 27 Medi a 7 Hydref 1642 i geisio ennill milwyr o'i blaid, a chafodd ei urddo'n farchog ar yr ail ymweliad. Bu'n flaenllaw yn amddiffyniad Caer yn 1643 a sir Ddinbych yn 1644. Wedi i filwyr plaid y Senedd ddyfod ar gyrch i Gymru yn 1644 fe'i gwnaethpwyd yn llywiawdr castell Holt; parhaodd i ddal y castell hyd 13 Ionawr 1647, pryd yr ymostyngodd i Thomas Mytton ar delerau a olygai y gallai ef fynd allan o Brydain gyda £300 allan o'i stad bersonol ef ei hun a chaniatâd i'w deulu gadw tiroedd o'r un faint o werth. Oblegid ei agwedd ddi-ildio tuag ati penderfynodd y Senedd geisio peidio â'i gynnwys ef ymhlith y rhai a oedd i gael pardwn pan oeddid yn ystyried telerau 1647. Dychwelodd wedi'r Adferiad a gwnaethpwyd ef yn farnwr cylchdaith de-ddwyreiniol y Sesiwn Fawr ym mis Gorffennaf 1660. Bu'n weithgar gyda'r mudiad i ailsefydlu cyngor y goror gan baratoi memorandwm (a gyflwynwyd ym mis Mehefin 1661) yn cynnwys ailadroddiad o resymau ac ymresymiadau a ddefnyddiasai 20 mlynedd cyn hynny. Yn yr un flwyddyn etholwyd ef i'r Senedd gan dref Caerdydd a sir Faesyfed; dewisodd eistedd dros yr olaf, gan barhau i wneuthur hynny hyd ei farwolaeth ar 5 Mai 1676. Claddwyd ef yn Wrecsam.
Hawlia un aelod arall (heb sôn, am y tro, am David Owen, 'Dafydd y Garreg Wen,') o'r tylwyth hwn ryw ychydig sylw. O gymharu'r tablau yn J. E. Griffith (Pedigrees, 330, 353, 269), gwelir fod gan Syr Richard Lloyd chwaer o'r enw Margaret, a briododd â Richard Anwyl o'r Parc. Merch iddynt hwy oedd Barbara, a oedd yn fyw yn 1707 ac a fu'n briod ddwywaith, yr eiltro â rhyw 'Parry,' a uniaethir gan rai â Jeffrey Parry o Rydolion, hynaif Parriaid Madryn - ond ni thâl hyn, oblegid yr oedd hwnnw wedi marw pan oedd hi eto'n briod am y tro cyntaf. Enw ei gwr cyntaf, fel y praw Nannau MS. 3452 yn llyfrgell Coleg y Gogledd, oedd Hugh Lloyd (nid 'Richard' fel y dywed Griffith) o Ddeneio a Nefyn. Trydydd mab (pumed mab, yn ôl rhai) y ddeuddyn hyn oedd RODERICK LLOYD (bu farw 1730) o'r Hafodwryd ym Mhenmachno, a ymaelododd yn Lincoln's Inn yn 1684 (ac a fwriodd y rhan fwyaf o'i oes ynddo), ac a ddaeth (fel ei ewythr Richard Anwyl) yn 'Clerk of the Outlawries in the Court of Common Pleas.' Dywedir yn aml ei fod yn 'protonotary' i'w gymydog enwog Syr Robert Price o'r Giler, ond nid ymddengys ei enw yn rhestrau W. R. Williams (The Welsh Judges) - er hynny, y mae'n amlwg fod cyswllt agos, ar hyd ei yrfa, rhyngddo a Price. Cofir ef ym Mhenmachno yn herwydd yr ysgol, yr elusendai, a'r elusennau (gan gynnwys 'llyfrau Cymraeg i'r tlodion') a roes ef i'w blwyf - gweler yr ewyllys (Nannau MS. 3448 ym Mangor), a hefyd Lowe, The Heart of Northern Wales, ii, 437-40, a Gweithiau Gethin, 250, 253-4. Priododd (1703) ag Anne, gweddw Robert Pugh o'r Bennar neu'r Bennardd ym Mhenmachno (cyfreithiwr o'r Middle Temple), a gadawodd ferch, Anne eto, a briododd (1730) ag Edward Williams o Feillionydd. Merch iddynt hwy, Anne drachefn, drwy ei phriodas â Robert Howell Vaughan (Griffith, op. cit., 201), a ddug eiddo Roderick Lloyd i deulu Hengwrt-Nannau, a dyna'r paham y mae ei bapurau ef ymhlith papurau Nannau yn llyfrgell Coleg y Gogledd - papurau (yn enwedig Nannau MSS. 3444-60) sy'n cyfannu ac yn cywiro rhyw gymaint ar dablau J. E. Griffith. Bu Roderick Lloyd farw fis Mai 1730, a chladdwyd 30 Mai yng nghapel Lincoln's Inn. Merch o'i phriodas gyntaf (â Robert Pugh) i'w wraig oedd Anne Pugh, a ddaeth yn wraig i John Wynne, esgob Llanelwy; dyna'r paham y gwelir enw'r esgob gyda Syr Robert Price ac eraill ymhlith ysgutorion ewyllys Roderick Lloyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.