Ganwyd yn 1667 yn fab i Humphrey Wynne, Maes-y-coed, Caerwys, a'i wraig Elizabeth (Wynne, merch John Wynne o Gopa'rleni, Trelawnyd, a'i wraig Catherine Thelwall, Bathafarn, gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 369 - yr oedd yr esgob felly'n gyfyrder i'r John Wynne o Gopa'rleni y sonnir amdano yn yr ysgrif o flaen hon). Aeth i ysgolion Llaneurgain a Rhuthyn, ac yn 1682 i Goleg Iesu; graddiodd yn 1685 (B.D. 1696, D.D. 1706), ac etholwyd ef yn gymrawd yn yr un flwyddyn. Cymysgir cryn dipyn ar ei yrfa yn Foster a'r D.N.B. (y mae ei enw'n hynod gyffredin), ac o graffu ar restrau D. R. Thomas o glerigwyr Llanelwy gwelir nad hwn oedd y John Wynne a fu yn Nantglyn a Llansilin fel y dywed Foster, na'r John Wynne (arall eto) a fu yn Efenechtyd yn ôl Foster. Yn wir, y mae gyrfa'r esgob yn gymharol syml: yr oedd yn gaplan i'r iarll Pembroke, a rhoes hwnnw iddo reithoraeth Llangelynnin ym Meirionnydd (1701-14); cafodd hefyd brebend (1705) yng Ngholeg Crist yn Aberhonddu. O 1705 hyd 1716 yr oedd yn athro diwinyddiaeth ('Lady Margaret Professor') ym Mhrifysgol Rhydychen, a chafodd reithoraeth Llandysul (Ceredigion) yn 1713. Eisoes (1712) yr oedd yn is-brifathro Coleg Iesu, ac yn Awst 1712 (ar ôl tynfa galed rhwng y Chwigiaid a'r Torïaid ymysg y cymrodyr) llwyddodd i gael ei ddewis yn bennaeth. Yn Ionawr 1715 penodwyd ef yn esgob Llanelwy, ond daliodd at ei swydd yng Ngholeg Iesu, ar waethaf cryn rwgnach yn Rhydychen, hyd 1720, pan briododd ag Anne, ferch Robert Pugh o'r Benarth ym Mhenmachno (gweler dan Lloyd, Richard, o Esclus - yr oedd yr esgob yn un o sgutorion Lloyd). Yn Llanelwy, gwariodd ei arian yn hael ar atgyweirio'r eglwys a'r plasty; noder hefyd mai Wynne oedd yr esgob Cymreig diwethaf a fu yn Llanelwy, hyd 1870. Symudwyd ef yn 1727 i esgobaeth Bath a Wells, a ddaliodd weddill ei ddyddiau. Yn 1732 prynodd stad Sychdyn ('Soughton') yn Llaneurgain, ac yno y bu farw, 15 Gorffennaf 1743, 'yn 85 oed' meddai carreg ei fedd yn Llaneurgain. Cyhoeddodd rai pregethau, a thalfyriad (1696) o draethawd Locke On the Human Understanding - talfyriad a gymeradwywyd gan Locke ei hunan, a aeth i bum arg., ac a gyfieithwyd yn Ffrangeg ac Eidaleg. Teimlai Edward Lhuyd yn 1704 (Archæologia Cambrensis, 1859, 253) fod Wynne ' yn oerllyd, yn wir yn elyniaethus ' tuag ato - ar y llaw arall, cafodd Moses Williams lythyr cymeradwyaeth ganddo at Isaac Newton yn 1722 pan geisiai ef gael ei ddewis yn ysgrifennydd i'r Royal Society.
Claddwyd dau fab yr esgob yn Llaneurgain. Yr hynaf oedd JOHN WYNNE (1724 - 1801), cyfreithiwr, ' Bencher ' yn y Middle Temple. Y llall oedd Syr WILLIAM WYNNE (1729 - 1815), yntau'n gyfreithiwr; aeth i Goleg Trinity Hall yng Nghaergrawnt yn 1746, graddiodd yn y gyfraith yn 1751 (LL.D. 1757); bu'n gymrawd o'i goleg o 1755 hyd 1803, ac yn bennaeth ('Master') o 1803 hyd ei farw. Arbenigai yn y gyfraith eglwysig, a bu'n ddadleuydd o flaen y ' Court of Arches ' o 1757 hyd 1788, pan benodwyd ef yn ' Dean of Arches ' ac yn farnwr yn 'Prerogative Court' yr archesgob, swyddau a ddaliodd hyd 1809. Dewiswyd ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1789, ac yn un o ' arglwyddi'r Trysorlys ' yn 1790 - yr oedd wedi ei urddo'n farchog yn 1788. Etifeddwyd Sychdyn gan ferch i'r esgob, a briododd â Henry Bankes, hynaif y diweddar Syr John Eldon Bankes.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.