BANKES, Syr JOHN ELDON (1854 - 1946), barnwr

Enw: John Eldon Bankes
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1946
Priod: Edith Bankes (née Ethelston)
Plentyn: Margaret Annie Lewis (née Bankes)
Rhiant: John Scott Bankes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llaneurgain 17 Ebrill 1854, yn fab i John Scott Bankes, plas Sychtyn, ac yn or-ŵyr i John Scott (yr Arglwydd Ganghellor Eldon); disgynnai'n uniongyrchol hefyd o John Wynne (1667 - 1743), Esgob Llanelwy, gan i ferch Wynne briodi Henry Bankes - stâd yr esgob yn Sychtyn oedd tref-tad J. E. Bankes. Aeth i Eton ac i Goleg Eglwys Crist (rhwyfodd dros Rydychen yn erbyn Caergrawnt); aeth yn fargyfreithiwr yn 1878, yn K.C. yn 1901, yn un o farnwyr yr Uchel-lys yn 1910, ac yn un o farnwyr y Llys Apêl (a chyda hynny'n aelod o'r Cyngor Cyfrin) yn 1915 - ymneilltuodd yn 1927.

Ar hyd ei yrfa, ymroes i waith cyhoeddus. Yn Sir y Fflint, bu am 33 mlynedd yn Gadeirydd y Sesiwn Chwarter, ac yn aelod gweithgar o'r Cyngor Sir - yn Gadeirydd iddo yn 1933. Y tu allan i'w sir, bu'n aelod o nifer mawr o bwyllgorau a dirprwyaethau - yn Gadeirydd (e.e.,) y Pwyllgor Adrannol ar Addysg yng Nghymru Wledig, 1928. Perthynai i'r blaid Geidwadol, ac ymgeisiodd (yn ofer) am sedd Bwrdeisdrefi'r Fflint yn 1906. Yr oedd yn aelod blaenllaw iawn o'r eglwys sefydledig gynt, a chanddo ddiddordeb mawr ym mhwnc addysg grefyddol yn yr ysgolion. Efo, gyda'r Arglwydd Sankey, a luniodd gyfansoddiad newydd yr Eglwys yng Nghymru. Rhoes Prifysgol Cymru iddo yn 1921 radd LL.D. er anrhydedd. Bu farw 31 Rhagfyr 1946. Yr oedd wedi priodi, yn 1882, Edith Ethelston (bu hi farw 1931), a bu iddynt ddau fab a dwy ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.