Ganwyd 14 Ionawr 1655, ail fab Thomas Price, Giler, plwyf Cerrig-y-drudion, a Margaret, merch ac aeres Thomas Wynne, Bwlchybeudy, yn yr un plwyf. O ysgol Rhuthyn aeth i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, 28 Mawrth 1672, ond ymadawodd heb raddio a chael ei dderbyn yn Lincoln's Inn, 8 Mai 1673, a dyfod yn fargyfreithiwr ym mis Gorffennaf 1679. Cyhoeddwyd cofiant (defnyddiol ac eithaf diddorol) iddo, The Life of … Robert Price … One of the Justices of His Majesty's Court of Common-Pleas, gan E. Curll, Llundain, yn 1734, a cheir manylion ei yrfa yn y D.N.B.; rhaid, felly, fodloni ar fraslun byr yma. Dechreuodd ei yrfa gyfreithiol pan ddewiswyd ef yn ' Attorney-general for South Wales,' 1682. Daeth yn gofiadur Maesyfed yn 1683, a bu'n dal amryw swyddi hyd nes y daeth yn farnwr cylchdaith Brycheiniog yn 1700. Fe'i dewiswyd yn un o farwniaid yr Exchequer, 24 Mehefin 1702, a daeth yn un o farnwyr llys y Common Pleas, 16 Hydref 1726. Cyn hyn yr oedd wedi ei enwogi ei hun yn y Senedd, lle bu'n aelod dros Weobley fwy nag unwaith, yn enwedig pan wrthwynebodd, 1695-6 - a hynny yn llwyddiannus - fwriad y brenin William III i roddi arglwyddiaethau Dinbych, Bromfield, a Iâl i Hans Williams Bentinck, Is-Almaenwr a ffefryn arbennig gan y brenin a'i creodd yn iarll Portland. Daeth Price i gymaint enwogrwydd yn yr achos hwn nes ennill iddo'i hun y teitl ' the patriot of his native country.' Wedi i'r brenin farw cyhoeddwyd, 1702, dwy araith Price ar y mater hwn o dan y teitl Gloria Cambriae: or the Speech of a Bold Briton in Parliament against a Dutch Prince of Wales - gweler Somers, Collection of Tracts, 1814, xi, 387-93. Yr oedd Price yn gyfeillgar â Robert Harley, iarll Oxford; gweler cyfeiriadau ato a llythyrau a ysgrifennodd at Harley yn Hist. MSS. Comm., Rep. on the MSS. of the Duke of Portland, iv-vi. Priododd, 23 Medi 1679, Lucy, merch hynaf Robert Rodd, Foxley, sir Henffordd, a bu iddynt dri phlentyn: yr aer oedd Uvedale Tomkyns Price. Argreffir manylion llawn am ei ewyllys gan E. Curll (op. cit.). Yr oedd yn gyfoethog a chanddo diroedd lawer yng Nghymru. Cododd a gwaddolodd dŷ elusen i chwech o bobl dlawd ym mhlwyf Cerrig-y-drudion. Bu farw yn Kensington, 2 Chwefror 1733, a'i gladdu yn Yazzor, sir Henffordd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.