LLOYD, HUMPHREY (1610 - 1689), esgob Bangor

Enw: Humphrey Lloyd
Dyddiad geni: 1610
Dyddiad marw: 1689
Priod: Jane Lloyd (née Griffith)
Plentyn: Richard Lloyd
Plentyn: John Lloyd
Plentyn: Francis Lloyd
Rhiant: Jane Lloyd (née Hughes)
Rhiant: Richard Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd ym Mod-y-fudden, Trawsfynydd, Gorffennaf neu Awst 1610, yn drydydd mab Richard Lloyd, D.D., (1573/4–1647?) ficer Rhiwabon, a Jane, (bu farw yn neu wedi 1648), merch Rhydderch Hughes, Maesypandy, ac wyr i Howel Lloyd, Dulasau, Penmachno. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 25 Ionawr 1627/8, eithr graddiodd yn B.A. yng Ngholeg Oriel, 1629. Daeth yn M.A. yn 1635 a gwnaed ef yn D.D. yn 1661.

Yn 1647, ar farw ei dad, apwyntiwyd ef i ficeriaeth Rhiwabon, ac yntau er 1627(?) yn dal rheithoraeth Erbistock. Yn 1650 trowyd ef allan o Riwabon yn ogystal ag o brebend yn eglwys gadeiriol Caer gan y Pwyllgor er Taenu'r Efengyl yng Nghymru. Yn y cyfamser fe'i cyflwynasid i brebend Ampleforth yn eglwys gadeiriol Caerefrog gan yr archesgob John Williams, a oedd eisoes wedi ei benodi'n gaplan iddo; eithr ni allwyd ei sefydlu oherwydd ymgyrch byddin Sgotland.

Ar adferiad y brenin Siarl II, adferwyd ef i Riwabon; llwyddodd hefyd yn ei gais am brebend Ampleforth, ond methodd gael deoniaeth Bangor. Yn 1663, fodd bynnag, daeth yn olynydd i'r Dr. David Lloyd fel deon Llanelwy a rheithor Henllan, bywoliaeth a oedd yn gysylltiedig â'r ddeoniaeth. Yn Llanelwy, amlygodd ei hun trwy ei wrthwynebiad pendant a digymrodedd i gais a wnaed i osod degymau a phroffidau Whitford ar brydles i Syr Roger Mostyn. Yn 1673 fe'i symudwyd o Riwabon i reithoraeth Gresford, ac ar 5 Ionawr 1673/4 gorseddwyd ef yn esgob Bangor. Trwy Act arbennig yn 1685 cafodd gan y Senedd gysylltu wrth yr esgobaeth archddeoniaethau Bangor a Môn, rheithoraeth segur Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, a dwy ran o dair o 'gyfrannau' ('comportionary tithes') Llandinam er cynhalieth adeilad a chôr yr eglwys gadeiriol. Daeth ymdrechion Lloyd i feddiannu 'cyfrannau' Llandinam ag ef i wrthdrawiad â William Sancroft, archesgob Caergaint, a aeth mor bell â'i gyhuddo ar un achlysur o fod yn drachwantus, onid hyd yn oed yn lluosogwr. Yn yr ymryson hwn yn ogystal ag yn hwnnw dros brydlesoedd Whitford y gwelir yr esgob Lloyd ar ei orau fel dadleuydd medrus a dygn.

Nid oedd ganddo ddim cydymdeimlad â gwaith Thomas Gouge a'r Welsh Trust, a gwawdiai'r ymgyrch i gasglu tanysgrifiadau at argraffiad Cymraeg newydd o'r Beibl. Dywaid Humphrey Humphreys i Gouge ei gythruddo'n arbennig trwy ddileu enw Lewis Bayly oddi ar ddalen-deitl argraffiad Cymraeg 1675 o The Practice of Piety (Yr Ymarfer o Dduwioldeb), ac i Lloyd ei hun sgrifennu enw'r awdur ar y copiau a oedd i'w dosbarthu yng nghymdogaeth Bangor.

Priododd Jane, merch John Griffith yr ieuengaf o Gefnamwlch a gweddw Owen Brereton o Fwras; bu iddynt dri mab: John, Francis, a Richard. Bu farw 18 Ionawr 1689, a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.