mab hynaf Richard Humphreys, Hendre, Penrhyndeudraeth, plwyf Llanfrothen, Sir Feirionnydd, swyddog ym myddin y Brenhinwyr, a Margaret, merch Robert Wynne, Cesailgyfarch, Penmorfa, Sir Gaernarfon. Ganwyd 24 Tachwedd 1648.
Cafodd ei addysg yn ysgolion gramadeg Croesoswallt a Bangor cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen (B.A. 1669, M.A. 1672, cymrawd o'i goleg 1672-3, B.D. 1679, a D.D. 1682). Ordeiniwyd ef, yn rhinwedd trwydded arbennig, yn ddiacon ac yn offeiriad ar 12 Tachwedd 1670 gan yr esgob Robert Morgan yn eglwys gadeiriol Bangor, a'r un diwrnod cafodd ei sefydlu yn rheithor Llanfrothen. Cafodd y bywiolaethau hyn hefyd: Trawsfynydd 1672, Cricieth 1677, Llaniestyn (Sir Gaernarfon) 1680, a Hope (segurswydd oedd hon) 1689. Fe'i sefydlwyd yn ddeon eglwys gadeiriol Bangor ar 16 Rhagfyr 1680 a'i gysegru yn esgob Bangor ar 30 Mehefin 1689. I raddau helaeth yn erbyn ei ewyllys, symudwyd ef, ym mis Tachwedd 1701, i fod yn esgob Henffordd, lle y bu farw 20 Tachwedd 1712. Yn 1681 priododd Elizabeth, merch Robert Morgan, Henblas, sir Fôn, esgob Bangor ac aelod o deulu yr oedd yr esgob William Lloyd, un o'r 'Saith Esgob', yn aelod enwog ohono.
Yr oedd cyfnod Humphreys fel esgob ym Mangor yn un llawn prysurdeb; hyd yn oed wedi iddo symud i Henffordd ni phallodd ei ddiddordeb yng ngwlad ei eni, serch i afiechyd bylu ei flynyddoedd olaf. Pan oedd yn ddeon Bangor gwellhaodd beirianwaith yr esgobaeth, ailadeiladodd dŷ'r deon, ac ymunodd â'r esgob William Lloyd, Llanelwy, i geisio cael Anghydffurfwyr i ddyfod yn ôl i'r eglwys. Yn 1690 cyhoeddodd Ymofynion Iw Hatteb Gan Brocatorion, Wardeinied, a Swyddogion ereill, Ymwelied [ sic ] Escobol gyntaf … Humphrey Humphreys, Escob Bangor - sylwer eu bod yn Gymraeg - gyda'r amcan o wybod stad yr esgobaeth. Efe oedd cefnogydd mwyaf blaenllaw y S.P.C.K. yng Ngogledd Cymru; mewn llythyr at ei offeiriaid y mae'n eu cynghori i ddyfod at ei gilydd mewn cyfarfodydd misol a'u gwneuthur eu hunain yn ' wholesome examples and patterns to the flock of Christ.'
Yr oedd yr esgob Humphreys yn Gymro gwladgarol ac yn llawn haeddu teyrnged Thomas Hearne iddo - 'he was reckon'd next to Mr. Edw. Lluyd for knowledge in the British language; but Mr. Lluyd used to say he was a greater master of it.' Ysgrifennodd y beirdd Edward Morus ac Owen Gruffydd gywyddau yn ei glodfori, a chydnabu'r llenorion Edward Samuel, Ellis Wynne, a Samuel Williams, eu dyled iddo; cyflwynodd Ellis Wynne ei Rheol Buchedd Sanctaidd i'r esgob a Samuel Williams ei Amser a Diwedd Amser yntau.
Ym marn Edward Lhuyd yr esgob oedd ' incomparably the best skill'd in our Antiquities of any person in Wales.' Derbyniwyd yr amseriadau a roes Humphreys i'r tywysogion Cymreig gan James Tyrrell (1642 - 1718), yr hanesydd, a chyflwynodd William Wynne ei History of Wales iddo. Arferai swyddogion y College of Arms, e.e. Piers Maudit (Windsor Herald) a Peter le Neve (Norroy King of Arms), gyfeirio eu holiadau ar achau Cymru i'r esgob a ddywedodd wrth Maudit mewn llythyr mai chwilio ac astudio achau oedd ei bennaf diddordeb yn ei oriau hamdden. Gwaith llenyddol pennaf yr esgob, yn wir, oedd yr ychwanegiadau a'r cywiriadau ganddo a brintiwyd (gan mwyaf) yn argraffiad Bliss o Athenae Oxonienses (Anthony Wood). Rhifa'r rhain dros gant; y maent, gyda'i gatalog o ddeoniaid Bangor a Llanelwy, yn gyfoeth o ddefnyddiau ar gyfer hanes yr esgobaethau. Ni wyddys pa le yn awr y mae nodiadau'r esgob ar Britannia (William Camden), ar Ffynnon Gwenffrewi, a'i amddiffyniad i'r archesgob John Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.