WILLIAMS, SAMUEL (c. 1660 - c. 1722), clerigwr ac awdur

Enw: Samuel Williams
Dyddiad geni: c. 1660
Dyddiad marw: c. 1722
Priod: Margaret Williams (née John)
Plentyn: Moses Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Geraint Bowen

Cartrefai yn Abertrosol, Llandyfrïog, deau Ceredigion. Priododd â Margaret, merch Thomas John, Nant-yr-ymenyn, Llandysul, a ganed iddynt un mab, sef Moses Williams. Hyd y gwyddys, ni chafodd addysg ffurfiol, eithr yr oedd ganddo ddigon o gymwysterau i gael ei urddo'n ddiacon yn 1691 i fod yn gurad yn Llandyfrïog, ac yn offeiriad yn 1696, pan gafodd guradiaeth Llanarth ynghyd â'r capeli anwes, Capel Crist a Llanina. Estynnwyd iddo fywoliaeth Llandyfrïog yn 1697 a rheithoraeth Llangynllo yn 1710. Cyflwynwyd bywoliaeth Llandyfrïog i Theophilus Evans yn 1722, ac ni all mai yn ddiweddarach na'r flwyddyn honno y bu farw Samuel Williams. Tystia ei waith ei fod yn gopïwr llawysgrifau profiadol erbyn 1696. Mae'r rhai canlynol yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ei lâw ef: Llanstephan MS 14 , Llanstephan MS 15 , Llanstephan MS 16 , Llanstephan MS 17 , Llanstephan MS 66 , Llanstephan MS 89 , Llanstephan MS 130 , Llanstephan MS 133 , Llanstephan MS 134 , Llanstephan MS 145 , NLW MS 67A , a llawysgrif Achau Bronwydd (N.L.W.). Gorffennodd gyfieithu Amser a Diwedd Amser John Fox, yn 1703, ac fe'i cyhoeddwyd yn 1707. Yn 1710, cyhoeddodd Undeb yn Orchymmynedig i Ymarfer, sef ei gyfieithiad o Saesneg gwreiddiol y Dr. D. Phillips, rheithor Maenor Deifi. Ef, hefyd, a oedd yn gyfrifol am gyfieithu 'r mynegai i Feibl 1718 y S.P.C.K. Paratôd gyfieithiadau eraill, ond arhosant mewn llawysgrifau, sef ' Gofal Tylwyth neu Ddyled Pennau Teuluoedd,' Erasmus Saunders (Llanstephan MS 146 ), ' Immanuel neu Ddirgelwch Cnawdoliath Mab Duw,' James Ussher (Llanstephan MS 22 ). 'Prawf fod degymau yn ddyledus wrth Ordinhad had Duw' (Llanstephan MS 111 ) y dechreuodd ei gyfieithu yn 1699, y flwyddyn y sefydiwyd S.P.C.K., a dwy gyfrol o bregethau, sef NLW MS 68A , cyfieithiadau o Saesneg yr esgob Beveridge, a Cwrtmawr MS 253 , cyfieithiadau o waith amryw awduron. Ei unig ryddiaith wreiddiol, ac eithrio cyflwyniadau, ydyw 'Gweddiau Teuluoedd i'w harfer Ar amryw Achosion,' ond erys y gwaith hwn eto mewn llawysgrif (Llanstephan MS 146 ). Yr oedd yn ei fwriad gyhoeddi ' Difyrrwch Teuluoedd ' (Llanstephan MS 145 , Llanstephan MS 146 ), sef casgliad o farddoniaeth gaeth rhyw 100 o feirdd. Yr oedd yn awdur halsingod, ac ef, ond odid, a gyhoeddodd Pedwar o Ganuau, 1718, yr unig gasgliad o halsingod a argraffwyd erioed. Prin iawn ydyw ei gerddi caeth. Ef biau'r englynion mawl i awdur Meddylieu Neilltuol ar Grefydd, 1717, ac i'w gyfaill llenyddol, 'Iaco ab Dewi' (James Davies, 1648 - 1722).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.