Y mae dwy dystiolaeth gyfoes i'w hanes, y naill gan Moses Williams yn ei Repertorium Poeticum, a'r llall gan Christmas Samuel yn llyfr eglwys Panteg (NLW MS 12362D ). Fe'i ganed yn Llandysul, daeth o dan ddylanwad Stephen Hughes, a bu'n aelod gyda'r Annibynwyr ym Mhencader. Rywdro cyn 1700 collodd ei holl eiddo trwy dân - cyfeiria at hyn yn ei benillion - ac y mae tystiolaeth iddo fyw ym Mhenllyn dros dro cyn dychwelyd i Lanllawddog yn Sir Gaerfyrddin. Cofnodir ei gladdu yno 27 Medi 1722. Y mae digon o awgrymiadau mai beichus oedd ei flynyddoedd olaf gan dlodi ac afiechyd. Diau y dylid gwrthod y traddodiad mai nai iddo oedd Siôn Rhydderch yr almanaciwr.
Fel copïydd a chasglydd llawysgrifau y mae iddo'r bri pennaf, a bu dylanwad Edward Lhuyd yn amlwg ar ei yrfa. Dylid cofio hefyd am ganolfannau pwysig yn ei ardal ef ei hun, fel llyfrgell William Lewes o'r Llwynderw. Cafwyd cylch o gopïwyr yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddarach, oll o dan ddylanwad 'Iaco ab Dewi' - William Bona o Lanpumpsaint; David Richards, curad Llanegwad; a Ben Simon o Abergwili. Aeth rhai o'i lawysgrifau i feddiant Siôn Rhydderch ac, ar ei ôl ef, i Lewis Morris. Dylid pwysleisio ei dymer feirniadol pan oedd yn llunio'r testunau, a nodi bod tystiolaeth mai copïwr proffesedig oedd, yn llunio llawysgrifau dros eraill, ac yn crwydro'r wlad, megis i lyfrgell enwog Pen y Benglog yn Sir Benfro, i gasglu ei ddefnyddiau. Y prawf gorau o bwysigrwydd ei waith yw fod ganddo ef a Samuel Williams yn Llanstephan MS 133 nifer mawr o gerddi nad oes copi ohonynt yn yr un llawysgrif arall. Gwyddai Iolo Morganwg, trwy ei gyfaill Tomos Glyn Cothi, am beth o lawysgrifau Iaco ab Dewi, ond twyllodrus yw rhai o'i honiadau amdano.
Tystiai Moses Williams i Iaco ab Dewi gynorthwyo Stephen Hughes i gasglu penillion y Ficer Prichard, ac y mae'n sicr y byddai hefyd yn casglu 'hen benillion,' etc., oddi ar lafar. Y mae'n bur debyg mai ef oedd golygydd y Flores Poetarum Britannicorum (1710). Nid yw ei ychydig gerddi yn bwysig ond i'r graddau y datguddiant ychydig ar dlodi a phruddglwyf ei fywyd ei hun, ac y dangosant ef yn efelychu gwaith rhai o'r beirdd y bu'n copïo eu cerddi, fel yn ei gywydd 'Molawd i'r Iesu.' Yr oedd copi o ramadeg y beirdd ymhlith ei lawysgrifau. Y mae'n amlwg nad ymboenodd ddim â baledi a cherddi poblogaidd ei ardal; a chysylltiad damweiniol yn unig sydd rhyngddo ag eisteddfodau'r cyfnod.
Er cynhaliaeth iddo ei hun yn ei dlodi, ebe Moses Williams, y troes 'Iaco' yn gyfieithydd, a chafodd ei noddi yn ei waith gan rai o foneddigion ac Anghydffurfwyr Sir Gaerfyrddin. Cyhoeddwyd ei wyth gyfieithiad rhwng 1714 a 1730. Yr hynotaf ohonynt yw Cyfeillach Beunyddiol â Duw (1714), a'r enwocaf yw Meddylieu Neillduol ar Grefydd (1717). Y mae'n bosibl mai 'Iaco ab Dewi' oedd un o'r pedwar a fu, yn ôl Stephen Hughes, yn cyfieithu Taith neu Siwrnai y Pererin (1688), ond nid oes un arwydd o hynny yn y llyfr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.