Abergwili, Sir Gaerfyrddin. Cofnodir claddu ' Benjamin Simon, a Pauper,' yn Abergwili, 1 Mawrth 1793, ac y mae gan ' Iolo Morganwg ' yn ei ' Agricultural Observations,' 1795 (NLW MS 13115B , sef Llanover MS. C.28), ddarlun cofiadwy o'r hen ŵr yn ei dlodi. Dywed 'Iolo' ei fod yn 90 oed pan fu farw, ac mai fel rhwymwr llyfrau yr enillai ei fywoliaeth. Y mae traddodiad arall mai crydd oedd. Dengys ei farwnad i Griffith Jones, Llanddowror, fod dylanwad hwnnw a'i ysgolion yn fawr iawn arno, fel ar eraill o'i genhedlaeth, megis ' Ioan Siencyn ' o Aberteifi. Anghydffurfiwr oedd Simon, fel eraill o lenorion a hynafiaethwyr y cyfnod, ac enwir ef yn aelod ym Mhanteg, Sir Gaerfyrddin, Mawrth 1743 (yn y llyfr eglwys, NLW MS 12362D ). Un oedd Ben Simon o'r cylch copïwyr y dylanwadwyd arnynt yn fawr gan ' Iaco ab Dewi '. Rhwng 1747 a 1751 y copiodd ei lawysgrif enwocaf, 'Tlysau'r Beirdd' (NLW MS 5474A ), a'i gasgliad adnabyddus o weithiau Dafydd ap Gwilym (NLW MS 5475A ) yn 1754. Y mae eraill o'i lawysgrifau yn Llyfrgell Dinas Caerdydd ac yn Rhydychen. Prynwyd ei lawysgrifau a'i lyfrau gan Thomas Evans ('Tomos Glyn Cothi') yn 1790, a defnyddiwyd rhai ohonynt, ar ôl hynny, gan ' Iolo Morganwg.' Yr oedd cysylltiad agos rhyngddo ef a Siôn Rhydderch hefyd. Y fwyaf adnabyddus o'i faledi yw Marwnad ar Farwolaeth … 17 o Ddynion yng Waith Glo'r Wern Fraith, ger-llaw Castell Nedd yn sir Forgannwg, 1758. Argraffwyd un arall o'i farwnadau fel atodiad i Llawlyfr Ysgrythyrawl, 1756.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.