Ganwyd yn Cwt-y-defaid, plwyf Penmorfa, Sir Gaernarfon. Daeth i sylw Humphrey Humphreys, esgob Bangor (hyd 1689), a'i cynorthwyodd i gael addysg a'i gymell i baratoi ar gyfer urddau eglwysig. Ymaelododd yng Ngholeg Oriel, Rhydychen, 19 Mai 1693, fel 'pauper puer'; dywedir iddo raddio (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph). Cafodd reithoraeth Betws Gwerfil Goch, 4 Tachwedd 1702, eithr newidiodd honno am reithoraeth Llangar (21 Ionawr 1721), ac aros yno hyd ei farwolaeth ar 8 Ebrill 1748. Cododd ddau fab yn glerigwyr - EDWARD SAMUEL (1710 - 1762), rheithor Llanddulas, 1735-47, a dilyn ei dad yn Llangar yn 1748, a WILLIAM SAMUEL (1713 - 1765), ficer Nantglyn, 1743-65, a thad y Dr. David Samwell.
Ysgrifennodd Edward Samuel rai carolau a cherddi; gweler esiamplau yn (a) Blodeu-gerdd Cymry , 1759; (b) Llu o Ganiadau, neu Gasgliad o Garolau a Cherddi … o Gasgliad W. Jones, Bettws Gwerfil Goch (Croesoswallt, 1798); (c) Eos Ceiriog, 1823; a (ch) B.M. Add. MS. 14961. Cyhoeddwyd pregethau o'i waith, (Pregeth ynghylch gofalon bydol a bregethwyd yn Eglwys Llangywer, yr ail dydd o fis Mai, 1720. Ar gladdedigaeth Mr. Robert Wynne, diweddar Vicar Gwyddelwern , 1731 a Adgyfodiad ein Harglwydd Jesu Grist, wedi ei brofi Mewn pregeth a bregethwyd ar Ddydd Sul y Pasg , 1766) eithr ei waith gwreiddiol pwysicaf, efallai, oedd Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr (Mwythig, Thomas Jones, 1704, ac arg. eraill). Cyhoeddwyd hefyd y cyfieithiadau a ganlyn o'i waith - (a) Gwirionedd y Grefydd Gristionogol (Llundain, 1716, ac arg. eraill; y gwreiddiol gan Hugo Grotius); (b) Holl Ddyledswydd Dyn (Amwythig, 1718); (c) Prif ddledswyddau Christion : sef angenrhaid a mawrlles gweddi gyffredin a mynych gymmuno (Mwythig, John Rhydderch, 1722/3; arg. 1793 yng Nghaer - o'r gwreiddiol gan William Beveridge, esgob Llanelwy, y rhan gyntaf wedi ei gyflwyno i'r barnwr Robert Price , Giler, sir Ddinbych, a'r ail ran i Watkin Williams Wynne [sic], Wynstay [sic]; a (ch) Athrawiaeth yr Eglwys (Caerlleon, Roger Adams, 1731) - trosiad o ddau waith, y naill gan Peter Nourse a'r llall gan William Wake, archesgob Caergaint. Ceir ffacsimile o lythyr a ysgrifennodd, 1 Mawrth 1703/4, at Edward Lhuyd yn R. Ellis, Facsimiles of Letters of Oxford Welshmen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.