Cywiriadau

ELLIS, RICHARD (1865 - 1928), llyfrgellydd a llyfryddwr

Enw: Richard Ellis
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1928
Rhiant: John Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrgellydd a llyfryddwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 14 Hydref 1869, mab John Ellis, marsiandwr calch, Aberystwyth. Treuliodd beth amser yn un o ysgolion David Samuel ac yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1901, a chael yn ddiweddarach ' gymrodoriaeth ymchwil ' i wneuthur prif waith ei fywyd, sef casglu pob math o ddefnyddiau ynglŷn â hanes bywyd a gwaith Edward Lhuyd. Cyhoeddodd flaenffrwyth ei astudiaeth yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1906-7, o dan y pennawd ' Some Incidents in the Life of Edward Lhuyd '; ond ni chwplaodd y gwaith o drefnu ei ddefnyddiau ar gyfer cyhoeddi gwaith safonol ar waith ac oes Lhuyd, eithr eu gadael yn ei ewyllys i lyfrgell Coleg Aberystwyth. Parodd ei waith ar Lhuyd iddo ddyfod yn arbenigwr ar hanes llawer o Gymry eraill y bu cysylltiad rhyngddynt â Rhydychen. Cyhoeddodd (a) Facsimiles of Letters of Oxford Welshmen (Henry Vaughan y Silurist, Syr Leoline Jenkins, Edward Lhuyd, Ellis Wynne ('Bardd Cwsc'), Edward Samuel, Moses Williams), a (b) An Elizabethan Broadside in the Welsh Language, being a Brief granted in 1591 to Sion Salusburi of Gwyddelwern, Merionethshire; nid oes dim dyddiad wrth (a), eithr cyhoeddwyd (b) yn 1904.

Cymerth Ellis ofal llyfrgell Gymreig Coleg Aberystwyth yn niwedd 1907, ac ymhen blwyddyn dewiswyd ef yn gynorthwywr cyntaf Syr John Ballinger, llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ond ni bu'n hir yn y swydd newydd, eithr dychwelyd i Rydychen i geisio cwpláu ei waith ymchwil. Bu farw 6 Medi 1928 yn Rhydychen, a'i gladdu yn Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

ELLIS, RICHARD, llyfrgellydd a llyfryddwr

gweler bellach astudiaeth Brynley F. Roberts (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1977) ar yrfa a gwaith Ellis ar Edward Lhuyd (Bywg., 529) sy'n cywiro a llanw bylchau yn yr erthygl. 27 Rhagfyr 1865 oedd dyddiad ei eni. Credir iddo dderbyn ei addysg gynnar yn ysgol ramadeg breifat David Samuel yn Aberystwyth cyn mynd i Goleg y Brifysgol yno yn 1889. Yn 1893 cafodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu Rhydychen ond nid aeth yno tan 1898 oherwydd amgylchiadau teuluol. Yn y cyfamser bu'n athro yn ysgol David Samuel. Dyfarnwyd ysgoloriaeth eto iddo ar gymeradwyaeth R. L. Poole yn 1899. Graddiodd yn B.A. yn 1902 ac M.A. yn 1908. Yn Rhydychen dechreuodd weithio ar lawysgrifau a llythyrau Edward Lhuyd gan fwriadu eu cyhoeddi. Yn 1908 penodwyd ef yn olynydd i J. Glyn Davies fel llyfrgellydd Cymraeg yng Ngholeg Aberystwyth, a symud i'r Llyfrgell Genedlaethol pan agorwyd hi yn 1909. Anhapus fu ei gyfnod yno a dychwelodd i Rydychen yn 1912 gydag ysgoloriaeth ymchwil. O 1916 i ddiwedd Rhyfel Byd I ef oedd yr unig lyfrgellydd cynorthwyol yn Llyfrgell Codrington yng Ngholeg yr Holl Eneidiau. Yn gynnar yn y 1920au dychwelodd i Aberystwyth. Treuliodd rai wythnosau yn Nulyn yn 1927 i ddilyn ei ymchwil ar Lhuyd. Yr un perwyl a'i harweiniodd drachefn i Rydychen yng Ngorffennaf 1928 ac yno y bu farw. Yn 1903 y cyhoeddwyd ei Facsimiles of Letters of Oxford Welshmen ar bapur Whatman. Ychwaneger facsimile arall a gyhoeddwyd ganddo yn 1907 - Carol o gyngor yn galennig i'r Cymru 1658, Mathew Owen. Argraffwyd detholiad o'i gerddi Saesneg yn astudiaeth Dr Roberts.

Awdur

  • Evan David Jones, (1903 - 1987)

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.