SAMUEL, DAVID ('Dewi o Geredigion'; 1856 - 1921), ysgolfeistr a llenor

Enw: David Samuel
Ffugenw: Dewi O Geredigion
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1921
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a llenor
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Herbert Parry-Williams

Ganwyd 1 Mawrth 1856 yn Aberystwyth, yn fab i Edward Samuel. Addysgwyd ef yn ysgol yr Eglwys, Aberystwyth, ysgol ramadeg Aberystwyth (Edward Jones), Ysgol Llanymddyfri, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg Clare, Caergrawnt, lle'r aeth gydag ysgoloriaeth mewn mathemateg ym mis Hydref 1875. Enillodd amryw wobrwyon a graddio, ym mis Ionawr 1879, yn 20fed 'wrangler' mewn mathemateg. Aeth yn athro i ysgol ramadeg Appleby, Westmorland, ac wedyn i ysgol ramadeg Ashbourn, Derbyshire. Ym mis Ionawr 1887 agorodd ysgol ramadeg breifat yn Aberystwyth, lle y bu'n addysgu am naw mlynedd a hanner, nes ei apwyntio (1896) yn brifathro i'r ysgol sir newydd (Ardwyn) yn Aberystwyth. Dan ddylanwad Silvan Evans fe ddechreuodd ymddiddori'n fawr yn iaith a llenyddiaeth Cymru, ac fe ysgrifennodd lu o erthyglau i newyddiaduron a chyfnodolion, yn arbennig Cymru (O.M.E.) a'r Geninen (am restr gweler NLW MS 2809B ). Yr oedd ganddo ddiddordeb mewn diwinyddiaeth hefyd. Bu'n beirniadu droeon yn yr eisteddfod genedlaethol ac yn arholwr i Orsedd y Beirdd. Fe olygodd gasgliad o faledi Cymraeg, Cerddi Cymru, gyda rhagymadrodd ar ganwyr baledi ac ysgrifenwyr baledi. Bu farw 26 Mai 1921.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.