Ganwyd yn 1608 yn Bronfraith, Llandysul, Sir Drefaldwyn, trydydd mab Richard Morgan, a addysgwyd yn Rhydychen ac a fu'n cynrychioli sir Drefaldwyn yn Senedd 1593. Mary, merch Thomas Lloyd, Gwernbuarth, oedd ei fam. Ar ôl bod yn astudio gartref o dan dad Simon Lloyd, archddiacon Meirionnydd wedi hynny, aeth i Goleg Iesu, Caergrawnt (6 Gorffennaf 1624), a graddio yn B.A. 1628, B.D. 1638, D.D. 1661. Wedi ei ordeinio ym mis Rhagfyr 1629 gan esgob Peterborough, aeth yn gaplan (1631) i Dolben, esgob Bangor, a roes iddo fywoliaeth yn Sir Drefaldwyn a dwy reithoraeth segur yn sir Ddinbych. Pan fu Dolben farw yn 1632 dychwelodd i Gaergrawnt (S. John's) hyd 1637, pryd y daeth yn gaplan i William Roberts (1585 - 1665), esgob Bangor, a chafodd fywoliaeth ychwanegol yn sir Ddinbych; pan wnaethpwyd ef yn brebend yn eglwys gadeiriol Caer (1 Gorffennaf 1642), newidiodd y fywoliaeth ychwanegol hon am rai bywiolaethau yn sir Fôn. Trwy brynu gan deulu Bulkeley les degymau Llanddyfnan, sir Fôn, a oedd heb redeg i'r pen - (rhoes y degymau hyn yn ddiweddarach i ychwanegu at werth y fywoliaeth) - gallodd gadw Llanddyfnan pan drowyd ef allan o'i fywiolaethau eraill yn ystod yr 'Interregnum,' a bu'n byw gyda Llwydiaid Henblas, Llangristiolus - yr oedd ei syniadau gwleidyddol ef a'r eiddo Richard Lloyd yn gyffelyb i'w gilydd. Bu'n helpu i fraslunio datganiad teyrngarol sir Fôn (14 Gorffennaf 1648) ac mewn pregeth angladdol ar ôl Owen Holland, Berw (2 Rhagfyr 1656), cystwyodd y 'new and phantastick revelations' a geid gan y pregethwyr Piwritanaidd (NLW MS 3069B ). Wedi'r Adferiad cafodd fywoliaeth Trefdraeth yn ei hôl, daeth yn archddiacon Meirionnydd (24 Awst 1660), cafodd 'gyfran' o Landinam, Sir Drefaldwyn, cymerodd feddiant o ganoniaeth Penmynydd yr oedd wedi ei enwi iddi yn gynharach, a chwpláodd ei radd D.D. yng Nghaergrawnt (1661). Yn 1666 fe'i cysegrwyd yn esgob Bangor yn lle Robert Price, a fuasai farw cyn cael ei sefydlu. Bu'n helpu i wella cyflwr adeilad yr eglwys gadeiriol a esgeulusasid yn ystod yr ' Interregnum ' a rhoes organ iddi; pregethai hefyd yn ddyfal yn Gymraeg ac yn Saesneg. Pan gymerodd feddiant o reithoraeth Llandyrnog am ei fod yn ei chyfrif yn perthyn i'r esgob wrth ei swydd, bu ymgyfreithio chwerw rhyngddo ef a Thomas Jones (1622? - 1682), a oedd wedi ymneilltuo i'r fywoliaeth pan gollodd ei swydd fel caplan i Iago (y brenin Iago II wedi hynny) ac a oedd yn awr mewn tlodi. Ar wahân i hyn gadawai Morgan bob dadleuon yn llonydd, gan anwybyddu'r confenticlau yn ei esgobaeth, apelion y Dr. Michael Roberts am gymorth i gael ei gymrodoriaeth yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn ei hôl, a cheisiadau ei 'gâr' Syr Richard Wynn, Gwydir, am iddo roddi bywiolaethau i bobl a noddid ganddo ef ond a oedd yn gwbl anghyfaddas. Bu farw 1 Medi 1673; dyfynnir arysgrifau ei gofebau yn eglwys gadeiriol Bangor yn Browne Willis, Bangor, 1721, 23, 27-8. Priododd Anne, merch William Lloyd, rheithor Llaneilian, a bu iddynt bedwar mab; bu tri o'r meibion yn Rhydychen - aeth un o'r tri i'r gwasanaeth llysgenhadol o dan Syr Leoline Jenkins a'r lleill i weinidogaeth yr Eglwys.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.