Tua chanol y 15fed ganrif yr oedd stad Berw, sir Fôn, yn nwylo ITHEL AP HOWELL AP LLEWELYN, un o ddisgynyddion Llywarch ap Bran, arglwydd Menai yn niwedd y 12fed ganrif. Yr oedd gan Ithel ferch a elwid ELINOR, a mab a elwid OWEN. Daeth teulu Holland i gysylltiad â Berw pan briodwyd ELINOR, merch Ithel, a JOHN HOLLAND, a ddisgrifir fel un o wasanaethwyr Harri VI. Credir iddynt briodi rywbryd rhwng 1470 a 1480. Dilynwyd hwy gan eu mab OWEN HOLLAND. Apwyntiwyd ef yn siryf sir Fôn, Mawrth 1504/5, i ddal y swydd dros oes. Priododd ef Ethelrede, merch Richard Hampdene o Kimble, Berkshire. Rhwng 1520 a 1522 llwyddodd Owen i berswadio Syr John Owen, ei gefnder, i drosglwyddo iddo y rhan fwyaf o'r stad a aethai i ran ei ewythr, sef Owen, brawd Elinor (N.L.W. Carreglwyd Deeds, i. 2041, 2160, 2338). Digwydd ei enw ar ddogfen ynglŷn â melinau ym Merw 18 Rhagfyr 1528, ond bu farw cyn 15 Ebrill 1529 (Carreglwyd Deeds, i. 2023, 2211). Ychydig a wyddys am Edward ei fab a'i dilynodd. Priododd ef Elin, merch Rowland Griffith o Blas Newydd, sir Fôn, a bu farw cyn 1561. Ei fab OWEN oedd yr aer nesaf, a phriododd ef Elizabeth, merch Syr Richard Bulkeley, gan ei gysylltu ei hun felly ag un o'r teuluoedd pwysicaf yn sir Fôn. Efe hefyd a sefydlodd gysylltiad y teulu â'r glofeydd yn nhrefedigaeth Ysgeifiog. Ym mis Awst 1596 trosglwyddwyd iddo, gan Syr Henry Bagnall, diroedd yn cynnwys tua hanner trefedigaeth ' Eskyviog ' yn sir Fôn, gyda hawliau ynglyn â chloddio am lo (Carreglwyd Deeds, i. 1750, 2109, 2113). Cymerodd Owen ran amlwg ym mywyd cyhoeddus yr ynys. Dychwelwyd ef fel aelod seneddol dros sir Fôn, Tachwedd 1584 a bu'n siryf yn 1591 a 1599. Bu farw 1 Chwefror 1600-1. Yr oedd ei fab hynaf Rowland wedi marw yn ddiblant cyn ei dad, ac felly fe aeth y stad i'r ail fab, TOMAS. Ef, yn ôl pob tebyg, yw'r gŵr a nodir fel ' Thomas Holland of co. Anglesea, gent. St. Edmunds Hall, matric. 3 November 1593, aged 16,' yn J. Foster, Alumni Oxonienses, ac a ymaelododd wedi hynny fel efrydydd yn Lincoln's Inn, 28 Chwefror 1594-5. Dychwelwyd ef fel aelod seneddol dros sir Fôn, Hydref 1601, a bu'n siryf yn 1609, 1622, a 1640. Sonnir amdano yn aml fel swyddog mewn cysylltiad ag ymarferiadau milwrol yn ardal Dindaethwy. Nid oes wybodaeth bendant am ei ddyrchafu i radd marchog, ond credir iddo gael ei anrhydeddu tua 1621-2. Llwyddodd ef i gael prydles ar yr hanner arall o drefedigaeth Ysgeifiog, gyda'r hawliau ynglŷn â glo. Bu farw 1643 neu 1644, yn ddibriod, a dilynwyd ef gan ei nai OWEN, mab OWEN (brawd Syr Thomas) a Mary, merch Michael Evans o Blas Llandyfrydog. Yr oedd ef wedi priodi Jane, merch Pearce Lloyd o Lugwy, ac yr oedd Syr Thomas wedi trosglwyddo iddynt ar eu priodas ei diroedd yn sir Fôn. Bu Owen farw 1668?, a dilynwyd ef gan ei fab hynaf THOMAS. Bu i Thomas ddwy wraig, sef (1) ei gyfnither Catherine, merch Pearce Lloyd o Lugwy, a (2) Lumley, merch Thomas, Arglwydd Bulkeley. Yr oedd yn siryf sir Fôn yn 1681. Bu iddo fab o'r enw Thomas, ond yr oedd y ddau, yn dad a mab, wedi marw cyn 1708. Claddwyd un ohonynt yn Llanfihangel Ysgeifiog 12 Mawrth 1701/2. Yr etifedd nesaf oedd y Parch. THOMAS HOLLAND, mab John Holland o Gaernarfon (brawd y Thomas a etifeddodd yn 1668 ?) ac Elizabeth Levitt. Wedi cymryd urddau, aeth ef allan i ynys Bermuda yn 1703, a bu'n gwasanaethu fel clerigwr yno hyd nes dychwelyd i'r wlad hon yn 1706 (Carreglwyd Deeds, i. 1770, 1850). Yn 1708 etifeddodd stad Berw, ac yn yr un flwyddyn penodwyd ef yn rheithor Llangeinwen, sir Fôn. Priododd ddwy waith, (1) Elizabeth, merch Robert Holling, a (2) Mary, merch Mytton Davies, Gwysaney. Bu farw tua diwedd 1746. Profwyd ei ewyllys 26 Tachwedd 1746 (Carreglwyd Deeds, i. 2016). Efe oedd y diwethaf o'r enw i etifeddu'r stad, oherwydd bu dau fab iddo farw cyn eu tad. Yr oedd ei chwaer Jane wedi priodi Ellis Anwyl, rheithor Llaniestyn, Sir Gaernarfon, ac yr oedd eu merch hwy, Elizabeth, wedi priodi Richard Trygarn o Drygarn, Sir Gaernarfon. I ELIZABETH TRYGARN yn awr y daeth y stad, ac ar ei hôl hi i'w merch, MARY, a aned 1727, ac a briododd John Griffiths o Garreglwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.