GRIFFITH (TEULU), Carreglwyd, sir Fôn.

Disgyn y teulu hwn o Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr a chyndad teulu'r Tuduriaid.

Trydydd mab William Griffith Vychan o'r Penrhyn, Sir Gaernarfon, oedd EDMUND GRIFFITH, Porth-yr-aur, Caernarfon, a briododd Janet, merch Maredydd ap Ieuan ap Robert, un o hynafiaid teulu Wynn o Gwydir a hendaid Syr John Wynn, yr enwocaf o'r teulu hwn.

Eu pedwerydd mab hwy oedd WILLIAM GRIFFITH (c. 1516 - 1587), offeiriad. Sefydlwyd ef yn rheithor Llanfaethlu, 30 Mai 1544, collodd y fywoliaeth yr un flwyddyn, ond fe'i hadferwyd iddi yn 1558-9. Prynodd ef stad Tŷ'n-y-pant (neu Carreglwyd fel y'i galwyd yn ddiweddarach), sir Fôn, am £700, a phriododd Elizabeth, merch Gruffydd ap Robert, Carne, sir Fôn. Bu farw William Griffith yn Llanfaethlu, 17 Tachwedd 1587.

Bu ei fab JOHN GRIFFITH (yn fyw ar 10 Mehefin 1608), cyfreithiwr, yn ysgrifennydd dros dro i Henry, iarll Northampton.

Mab arall i William Griffith oedd EDMUND GRIFFITH (1559 - 1617). Ganwyd ef yn 1559, aeth i S. Edmund Hall, Rhydychen, yn 1577 (B.A. 1580), ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1583. Daeth yn rheithor Niwbwrch, sir Fôn, yn 1596, a Llanbeulan yn 1610. Bu farw cyn 16 Mai 1617. Mae'n cael ei gymysgu weithiau a'r esgob Edmund Griffith .

Pedwerydd mab William Griffith oedd ROBERT GRIFFITH (bu farw 1630) a briododd Anne, merch Owen Pritchard o blwyf Llanfflewyn (yn awr Tŷ Newydd), sir Fôn. Ganwyd iddynt hwy ddau fab eithriadol.

Un ohonynt oedd WILLIAM GRIFFITH (1597 - 1648), offeiriad; ganwyd 28 Hydref 1597. Addysgwyd ef yn Winchester a New College, Rhydychen; graddiodd yn 1618. Etholwyd ef yn gymrawd o'i goleg. Dilynodd y gyfraith gan gymryd graddau B.C.L. yn 1622 a D.C.L. yn 1627. Bu'n ganghellor esgobaethau Bangor a Llanelwy, yn ' Master of the Rolls (in Wales),' ac yn 1631 dewiswyd ef yn Feistr yn y Ganghellys. Priododd Mary (bu farw 1645), merch John Owen, esgob Bangor. Bu farw o'r pla 17 Hydref 1648.

Ei frawd ieuengaf oedd George Griffith (1601 - 1666), esgob Llanelwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.