Ganwyd yn 1570, mab Griffith ap John Griffith, Cefnamwlch, Llŷn. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen (B.A. 1589, M.A.. 1592, B.D. 1599). Daeth yn rheithor Llandwrog, 1596-1637; canon Bangor, 1600; rheithor segur-swydd Llanfor, Sir Feirionnydd, 1601; rheithor Llanbedrog, 1604; archddiacon Bangor, 1606; deon Bangor, 1613-33; ac esgob Bangor, 1633-7. Trwy ei wraig Gwen, merch Morris ap Gruffydd, Methlan, Llŷn, bu iddo 15 o blant. Bu farw 26 Mai 1637.
Pan oedd yn ddeon Bangor yr oedd ei berthynas â'r esgob Lewis Bayly yn dynn hyd at dorri. Cwympasant allan â'i gilydd ar fater gweinyddu Ysgol y Friars, Bangor, a bu i'w hamryfal wahaniaethau barn beri i'r ddau ymddangos gerbron Llys Ystafell y Seren a'r Cyfrin Gyngor. Y mae'n debyg fod eu gelyniaeth at ei gilydd yn rhan o'r gweryl fawr rhwng John Griffith, Cefnamwlch, nai y deon, a Sir John Wynn, Gwydir, a gynorthwyid gan yr esgob. Pan oedd yn esgob cyhuddwyd ef gan blwyfolion Bangor ym mis Ionawr 1637 o ddewis yn wardeiniaid ddynion a oedd yn codi treth anghyfreithlon at dalu am gadwraeth adeiladau'r eglwys gadeiriol; yr un mis anfonodd plwyfolion Beddgelert achwyniad ato oherwydd iddo ddewis curad iddynt nad oedd yn pregethu nac yn medru siarad Cymraeg. Cynhaliodd yr esgob synod o glerigwyr ei esgobaeth ym mis Tachwedd 1636.
Y mae'r esgob Edmund Griffith yn cael ei gymysgu weithiau ag EDMUND GRIFFITH (1559 - 1617), Carreglwyd, sir Fôn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.