Pumed mab ydoedd i Ddafydd Llwyd o'r Henblas, Llangristiolus, bardd ac ysgrifennwr cynnar ar fydryddiaeth Gymraeg, ac yn disgyn ar yr ochr wrywol o Llywarch ap Bran ac ar yr ochr fenywol o Fleddyn ap Cynfyn - dywedir i'r tad gael ei addysg yn Rhydychen; merch Richard Owen Theodor o Benmynydd (siryf Môn yn 1565 a 1573) ac yn perthyn o bell i'r teulu brenhinol, oedd mam Richard. Ymaelododd yng Ngholeg Oriel, Rhydychen, 3 Ebrill 1612, ac fe'i cyflwynwyd i reithoraeth Sonning a ficeriaeth Tilehurst (Berkshire); cymerodd ei B.D. yn 1628 (7 Mai). Pan oedd y Senedd Faith yn enwi aelodau o'r ' Assembly of Divines ' a fwriedid, enwyd Lloyd dros sir Ddinbych (25 Ebrill 1642), eithr ni chynhwyswyd ei enw yn y rhestr derfynol. Collodd ei fywiolaethau pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, bu yng ngharchar amryw weithiau, ac ymneilltuodd i Rydychen, lle y bu'n addysgu mewn ysgol breifat ac yn ysgrifennu gramadeg Lladin a llyfrau ysgol eraill (gweler y teitlau yn Wood, Athenae Oxonienses, iii, 473); pan fu farw ym Mehefin 1659 fe'i claddwyd yn eglwys S. Peter le Bailey. Bu dau o'i frodyr yn dal bywiolaethau yn sir Fôn a bu trydydd brawd yn ysgrifennydd iarll Northumberland. Mab iddo oedd William Lloyd (1627 - 1717), esgob Llanelwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.