DAFYDD LLWYD o'r HENBLAS (neu DAFYDD LLWYD ap SION) (bu farw 1619), bardd ac ysgolhaig

Enw: Dafydd Llwyd
Dyddiad marw: 1619
Priod: Catrin ferch Rhisiart Owen
Priod: Sian ferch Llywelyn ap Dafydd
Plentyn: Richard Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac ysgolhaig
Cartref: HENBLAS
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Ray Looker

O deulu bonheddig yr Henblas, (Llangristiolus, Môn) y dywedir iddo raddio yn B.A. o S. Edmund Hall, Rhydychen. Priododd Catrin ferch Rhisiart Owen o Benmynydd a bu iddynt tuag wyth o blant, a thri o'r meibion yn glerigwyr. Yn ôl Lewys Dwnn a J. E. Griffith bu'n briod hefyd gyda Siân ferch Llywelyn ap Dafydd o Landyfrydog (a honno'n wraig gyntaf iddo yn ôl Dwnn), Soniwyd am ei ysgolheictod a dywedwyd ei fod yn medru wyth iaith. Cedwir nifer o'i gerddi, oll yn y mesurau caeth, mewn llawysgrifau. Yn eu plith ceir cywydd marwnad i'w wraig, Catrin, a thri englyn i un o'i feibion. Canodd ' Syr ' Huw Roberts a Rhisiart Cynwal farwnadau iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.