ROBERTS, HUW (Syr Huw Roberts neu Huw Roberts Lên) (fl. c. 1555-1619), bardd, awdur, a chlerigwr

Enw: Huw Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, awdur, a chlerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd cynnar, ond ymddengys iddo fynd yn ' servitor ' i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, a graddio'n B.A. yno ar 6 Chwefror 1577-1578. Wedi derbyn ohono urddau eglwysig dywedir iddo fynd yn beriglor Aberffraw ym Môn; cafodd radd M.A. yn 1585. Cadwyd llawer o'i gerddi mewn llawysgrifau, a'r rhan fwyaf ohonynt yn gywyddau i aelodau o deuluoedd bonheddig gogledd Cymru, megis Bodorgan, Henblas, Mellteyrn, Mysoglen, Penhesgyn, Penrhyn, a Phlas Iolyn. Canodd gywydd i groesawu Henry Rowland, esgob Bangor, adref o Lundain yn 1610, cywydd ar Frad y Powdr Gwn, 1605, cywydd ymddiddan rhwng offeiriad a'i gariad, nifer o amrywiol englynion a gynnwys un i'r Forwyn Fair, a chywyddau ymryson i Gruffudd Llwyd, a hefyd i Llywelyn Siôn o Forgannwg. Cyhoeddwyd yn Llundain, 1600, ei waith a elwir The day of Hearing: or six lectures upon the latter part of the third Chapter of the Epistle to the Hebrews.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.