Ail fab Robert ap Rhys ab Meredydd o Blas Iolyn, Ysbyty Ifan, sir Ddinbych. Dywedir i'w daid Rhys ab Meredydd, neu Rhys Fawr, ymladd ar faes Bosworth ym mhlaid Harri VII. Yr oedd ei dad Robert ap Rhys yn un o gaplaniaid y llys brenhinol o dan cardinal Wolsey, a rhoddodd y brenin Harri VIII y cwbl o diroedd Dolgynwal iddo a rhan fawr o Benllyn, lle y sefydlodd ei fab, Cadwaladr, deulu Price, Rhiwlas; brawd arall i Elis Prys oedd Thomas Vaughan o'r Pant Glas.
Ganed ef yn nechrau'r 16eg ganrif ac addysgwyd ef yng Nghaergrawnt, lle y derbyniodd radd Ll.B. yn 1533, a D.C.L. yn 1534, ac oddi wrth fantell goch ei radd gelwid ef 'Y Doctor Coch.' Priododd Ellyw, merch Owen Pool o Landecwyn, Merionnydd, a bu iddo saith o blant, dau fab a phum merch; Thomas oedd y mab hynaf. Yn 1535 penodwyd ef gan Thomas Cromwell i ymweled â'r mynachdai yng Nghymru a chymerth ran flaenllaw mewn diddymu'r mynachdai. Yn 1538 gwnaeth Cromwell ef yn ddirprwywr cyffredinol esgobaeth Llanelwy, a chafodd reithoraeth Llangwm, Llandrillo yn Rhos, a Llanuwchllyn. Yn nheyrnasiad Mari ac Elisabeth ymroddodd i wasanaeth gwladol; bu'n aelod seneddol dros Feirionnydd dair gwaith, a bu'n siryf Meirionnydd saith gwaith, yn siryf sir Ddinbych bedair gwaith, yn siryf Môn ddwy waith, a siryf Caernarfon unwaith, ac yn 'custos rotulorum' Meirionnydd bron drwy oes Elizabeth. Bu hefyd yn aelod o gyngor y gororau. Yn 1561 gwnaed ef yn ganghellor Bangor a rhoddwyd rheithoraeth Llaniestyn iddo; yn Chwefror 1565 awgrymwyd ei wneud yn esgob Bangor, ond gwrthwynebai'r archesgob Parker gan nad oedd Prys nac offeiriad nac yn gymwys i fod felly. Yn 1560 cafodd gan y Goron faenor Tir Ifan yn cynnwys tiroedd yn Ysbyty Ifan a Phenmachno. Yr oedd yn gyfaill mawr i Robert Dudley, iarll Leicester, a phan roddodd Elizabeth arglwyddiaeth Dinbych yn anrheg i'r iarll yn 1564, yr oedd Prys yn un o'i denantiaid, ac yn offeryn gormes yn ei law. Dywed Thomas Pennant amdano: 'a creature of the Earl of Leicester and devoted to all his bad designs.' Byddai'n noddi'r beirdd, a'i enw ef yw y cyntaf ar restr ysgwieriaid yn y comisiwn a roddodd y frenhines Elisabeth i gynnal eisteddfod yng Nghaerwys yn 1567. Gwnaeth ei ewyllys ar 3 Awst 1590; ychwanegwyd ati ar 6 Mai 1594, a phrofwyd hi 24 Mai 1596 Bu farw 8 Hydref 1594.
Mab iddo oedd y bardd Thomas Prys o Blas Iolyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.