LLYWARCH ap BRAN (fl. c. 1137), 'sylfaenydd' un o 'Bymtheg Llwyth Gwynedd

Enw: Llywarch ap Bran
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'sylfaenydd' un o 'Bymtheg Llwyth Gwynedd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: William Llewelyn Davies

Dywedir ei fod yn frawd-yng-nghyfraith i Owain Gwynedd - merched i Gronw ab Owain ab Edwin, arglwydd Tegeingl, oedd gwragedd Llywarch ac Owain Gwynedd. Dywedir hefyd iddo, fel Hwfa ap Cynddelw, wasnaethu Owain Gwynedd fel stiward, ei fod yn byw yn nhrefgordd Tref Llywarch, Môn; fe'i disgrifir hefyd yn arglwydd cwmwd Menai. Am enwau rhai teuluoedd yr oedd eu haelodau yn hawlio bod yn ddisgynyddion Llywarch gweler Philip Yorke, Royal Tribes (arg. 1887), 177-80.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.