ROBERTS, WILLIAM (1585 - 1665), esgob Bangor

Enw: William Roberts
Dyddiad geni: 1585
Dyddiad marw: 1665
Rhiant: Sisle Roberts (née Goodman)
Rhiant: Symon Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd yn Maes Maen Cymro, Llanynys, mab Symon Roberts a Sisle, merch Edward Goodman, Rhuthyn. Aeth i Goleg Queens, Caergrawnt, Pasg 1605, a graddio'n B.A. yn 1609, M.A. yn 1612, B.D. yn 1621, D.D. yn 1626, a dyfod yn gymrawd ei goleg, 1611-30. Ordeiniwyd ef yn Peterborough yn 1616, a daeth yn brebendari Lincoln ac yn is-ddeon Wells, 1619-38. Trwy ddylanwad Laud, gŵr y cydolygai Roberts ag ef mewn materion eglwysig, cafodd ei ethol yn esgob yn 1637, a chaniatâwyd iddo ddal gyda'r esgobaeth fywiolaethau Llandyrnog a Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, sir Ddinbych, a bod hefyd yn archddiacon Bangor ac yn archddiacon Môn. Am iddo, yng nghonfocasiwn Mai 1640, gytuno â'r canonau 'non-resistance' a'r 'clerical benevolence,' dygwyd cyngaws o 'impeachment' yn Nhŷ'r Cyffredin yn ei erbyn ef, ynghyd ag esgobion Llanelwy, Llandaf, a naw arall, 4 Awst 1641, a dewis Arthur Trevor yn un o'r rhai a oedd i'w diffynnu (16 Tachwedd); eithr trwy beri oedi ac oedi, a bod pethau eraill eisiau cael sylw, daeth yr achos i'w ddiwedd heb gael ei wrando (ym mis Rhagfyr). Yn ystod y Rhyfel Cartrefol rhoes loches ym Mangor i John Warner, esgob Rochester, a Brenhinwr nodedig o bybyr. Collodd ei swydd fel esgob o dan 'ordinance' 9 Hydref 1646 ac ymddengys iddo ymneilltuo i Llanelidan, sir Ddinbych. Ar 25 Mehefin 1649 gwnaeth drefniant ynglŷn â'i stad bersonol trwy dalu dirwy (yn ôl y chweched) o £66 10s., eithr ar 18 Tachwedd 1652 yr oedd ymysg y rhai a gyfrifid yn draeturiaid o dan yr ' Additional Ordinance ' i werthu stadau 'delinquents.' Gwerthwyd rhan o'r eiddo, eithr caniatâwyd iddo brynu'r gweddill yn ôl ar ôl talu dirwy ychwanegol o drydedd ran (£54) ar 24 Rhagfyr 1653. Pan ddaeth yr Adferiad cafodd ei esgobaeth a'i fywiolaethau yn ôl, a bu'n selog iawn gyda'r gwaith o adfer y gwasnaethau ac adnewyddu'r adeiladau ar ôl y diffyg arfer yng nghyfnod yr Interregnum. Bu farw yn Llandyrnog, 12 Awst 1665, a chladdwyd ef yno. Yn ei ewyllys gadawodd ganpunt yr un tuag at addurno côr yr eglwys gadeiriol a sefydlu ysgoloriaethau i fechgyn o'i esgobaeth yng Ngholeg y Queens ', Caergrawnt, a Choleg Iesu, Rhydychen, a deucant arall tuag at ymgeleddu y rhai a ddioddefodd gan y pla yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.